Rhanddeiliad
Rydym ar hyn o bryd yn gwahodd mentrau sydd â diddordeb i ddod yn rhanddeiliaid ym mhrosiect Brainwaves
Cwestiynau Cyffredin
Pwy a all fod yn rhanddeiliad?
1. Ffermwyr, mentrau a chyrff amaethyddol
2. BBaChau (sector ymborth amaethyddol; sectorau garddwriaeth a chompost)
3. BBaChau (dylunio a pheirianneg; synhwyro o bell; datblygu synwyryddion a goleuadau)
4. Mentrau a chyrff ansawdd dŵr
Mae Rhaglen Iwerddon-Cymru’n gweithredu ariannu i ranbarthau penodol, felly rydym yn awyddus i ddenu rhanddeiliaid â diddordeb o’r rhanbarthau canlynol –
Iwerddon: Carlow, Cork, Dublin City, Dun Laoghaire/Rathdown, Fingal, Kerry, Kildare, Kilkenny, Meath, South Dublin, Tipperary, Waterford, Wexford and Wicklow.
Cymru: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint, Ynys Môn, Sir Benfro, Abertawe a Wrecsam
Os ydych chi wedi’ch lleoli y tu allan i’r rhanbarthau hyn, ond yn credu y gallech chi neu’ch sefydliad chi fod o berthnasedd uniongyrchol i Brainwaves, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Rheolwr Prosiect yn Iwerddon, Anna Power anna.power@ucc.ie neu ar gyfer ymholiadau o Gymru cysylltwch â Rheolwr Prosiect Lleol, Lesley Langstaff lkl1@aber.ac.uk.
Figure 1: Ireland Wales Programme Area Map (courtesy of https://irelandwales.eu/)
Beth yw Rhanddeiliaid?
Mae rhanddeiliaid yn rhan allweddol o’r prosiect. Gall rhanddeiliaid chwarae gwahanol rannau, gallant fod yn arbenigwyr yn y sector a all roi atborth gwerthfawr i’r tîm ymchwil ynghylch cyfeiriad y prosiect, neu gyfrannu at ddatblygu atebion technolegol, neu gallant ddarparu lleoliad ar gyfer y prosiect, er enghraifft ar fferm.
Fe ffurfir grŵp ymgynghorol rhanddeiliaid, a wnaiff gwrdd ddwywaith yn ystod oes y prosiect, ym mis Tachwedd 2022 ac ym mis Awst 2023.
Pa ymrwymiad a ofynnir?
Bydd yr holl randdeiliaid yn cael ein cylchlythyr electronaidd (y gellir optio allan ohono) bob chwe mis â newyddion, cynnydd a diweddariadau am y prosiect, ac fe’u gwahoddir i gyfarfodydd grŵp ymgynghorol y rhanddeiliaid. Efallai y gofynnir ichi hefyd roi atborth (e.e. cwblhau arolwg) am y prosiect. Rydym yn arbennig o awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n gallu cynorthwyo â datblygu technoleg (systemau llifeiriant, synwyryddion, ffynonellau ynni adnewyddol) a/neu ddarparu lleoliad ar gyfer profion ar safle (e.e. ar ffermydd).
Bydd gwahoddiad hefyd ichi ddod i ddigwyddiadau ymestyn allan cyhoeddus Brainwaves (gweithdai, areithiau cyhoeddus, digwyddiadau lledaenu) ym mlwyddyn olaf y prosiect (2023). Ni wnawn ni rannu dim o’ch data personol heb ganiatâd.
Mae gennyf ddiddordeb o hyd. Â phwy y gallaf gysylltu?
Gwych! Cysylltwch â ni