Dewch i gwrdd â’r Tîm

Tîm Coleg Prifysgol Cork

Yr Athro Marcel Jansen Prif Ymchwilydd                    m.jansen@ucc.ie 
Dr Merve Sasmaz Kislioglu Ymchwilydd Ôl Ddoethuriaeth 

msasmazkislioglu@ucc.ie

Dr Siobhan Higgins Project Manager siobhan.higgins@ucc.ie
Ms Niamh Daly Cynworthwy-ydd Ymchwil Gweinyddol niamhdaly@ucc.ie
Ms Eilish Kennedy Research Assistant  eilishkennedy@ucc.ie
Dr Paul Bolger Ymgynghorydd Academaidd p.bolger@ucc.ie
Prof Edmond Byrne Ymgynghorydd Academaidd e.byrne@ucc.ie
Dr Fatemeh Kavousi Ymgynghorydd Academaidd fatemeh.kavousi@ucc.ie
Dr Alan Morrison Ymgynghorydd Academaidd a.morrison@ucc.ie

 

Tîm Prifysgol Aberystwyth

Dr Dylan Gwynn-Jones Cyd-Brif Ymchwilydd  dyj@aber.ac.uk 
Ms Lesley Langstaff Rheolwr Prosiect Lleol  lkl1@aber.ac.uk 
Dr Gruffydd Lloyd-Jones Ymchwilydd Ôl-Ddoethuriaeth  glj16@aber.ac.uk
Mr Bob Jacques Technegydd rgj2@aber.ac.uk
Dr Sarah Dalesman Ymgynghorydd Academaidd  sad31@aber.ac.uk
Dr Paul Robson Ymgynghorydd Academaidd  ppr@aber.ac.uk
Dr John Scullion Ymgynghorydd Academaidd   jos@aber.ac.uk

 

Yr Athro Marcel Jansen, UCC

Prif Ymchwilydd 

E: m.jansen@ucc.ie

 Brainwaves Principal Investigator

Yn yr Iseldiroedd y magwyd Marcel, ond fe ymsefydlodd gyda’i deulu yng Ngogledd Cork yn 2003, ar ôl swyddi yn y DU, Gwlad Belg, yr Almaen, Israel a’r Swistir. Yn yr Iseldiroedd, fe astudiodd Marcel arddwriaeth ym Mhrifysgol Amaethyddol Wageningen gan fod tyfu planhigion a garddio’n rhai o’r pethau y mae ganddo frwdfrydedd mawr amdanynt, yn ogystal â bod ymhlith ei gryfderau. Yn UCC, mae Marcel yn ymhél ag ymchwil a dysgu am bynciau sy’n ymwneud â rheoli twf planhigion (gweler Grŵp Dirboeniad Planhigionproffeil ymchwil a chyhoeddiadau Marcel i gael rhagor).

Yn ystod y degawd diwethaf, mae Marcel wedi gweithio ar y defnydd o linad y dŵr brodorol Iwerddon fel cnwd ymborth newydd sy’n llawn protein ac a all gymryd lle soya a fewnforir yn Iwerddon. Mae Marcel wedi magu arbenigedd mewn tyfu llinad y dŵr ar amryw o ffrydiau gwastraff. Enillwyd ei brofiad ymarferol mewn tyfu llinad y dŵr mewn unedau meithrin wedi’u stacio dan do gan ddefnyddio dŵr gwastraff o brosesu cynhyrchion llaeth. Ar lefel fferm, cafwyd profiad mewn tyfu llinad y dŵr ar un hectar o sianeli llifo awyr agored, wedi’u cysylltu â fferm bysgod yn Swydd Offaly.

Mae Marcel yn arwain prosiect Brainwaves, sy’n dod â gwyddonwyr ynghyd o Brifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cork. Mae’r tîm yn awyddus i siarad â rhanddeiliaid diwydiannol ag arbenigedd mewn hydroponeg, synwyryddion, golau, porthiannau amaethyddol, a ffermio. Os hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw un o weithgareddau prosiect Brainwaves, mae croeso ichi gysylltu â Marcel yn anffurfiol ar m.jansen@ucc.ie

Dr Dylan Gwynn-Jones, AU

Cyd-Brif Ymchwilydd

E: dyj@aber.ac.uk

Yn Nyffryn Clwyd y magwyd Dylan Gwynn-Jones mewn cymuned ffermio wledig a dwyieithog. Astudiodd Fioleg ym Mhrifysgol Bangor ac fe gwblhaodd Ph.D. ym Mangor wedyn ar y cyd â CEH Caeredin. Ecoffisioleg planhigion sydd wedi bod yn ganolbwynt i’w ddiddordebau erioed ac yn y 1990au cyflawnodd swyddi ym Mhrifysgolion Manceinion a Sheffield. Yn y ddwy bu’n archwilio effeithiau lefelau uchel o CO2 a phelydrau uwchfioled B cryfach ar gymunedau o blanhigion ar ledred uchel. Fe benodwyd Dylan wedyn yn Ddarlithydd, yn Uwch-Ddarlithydd ac wedyn yn Ddarllenydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ecoffisioleg a dirboenwyr amgylcheddol planhigion wedi amryfalu ac y mae bellach yn cydweithio’n agos â diwydiant yn y sectorau Garddwriaethol, Amaethyddol a masnachol. Mae ei ddealltwriaeth o ddirboenwyr planhigion a ddeilliodd o’i waith cynnar ar newid amgylcheddol wedi mynd yn fwy cymwysedig ac y mae erbyn hyn yn defnyddio dirboenwyr dan reolaeth i wella maint ac ansawdd cnydau. Y mae’n dadlau dros yr angen i reoli gwastraff yn well ac i gofleidio’r economi gylchog, gan droi gwastraff yn adnodd ac yn gyfle.

Mae proffeil ymchwil Dylan i’w weld yn y fan hon, a gellir cysylltu ag ef ar: dyj@aber.ac.uk

Dr Merve Sasmaz Kislioglu , UCC

Ymchwilydd Ôl-Ddoethuriaeth

E: msasmazkislioglu@ucc.ie

 

Un o Dwrci yw Merve. Ar ôl graddio mewn Peirianneg Amgylcheddol, astudiodd lefelau amsugno metalau trymion mewn Lemna minor a Lemna gibba yn ei gradd MSc gyntaf. Yn ei hail radd MSc, ymchwiliodd i sut yr effeithir ar batrymau llif gan wahanol gyfluniadau o byllau drwy ddefnyddio offeryn deinameg hylif gyfrifiadol. Cwblhaodd PhD yn 2021, a oedd â’i ffocws ar alluoedd gwahanol rywogaethau o facroffytau, a dyfai mewn gwahanol fannau gollwng, i gronni metalau trymion.

Mae gan Merve bedair blynedd o brofiad hefyd fel peiriannydd yn y Weinyddiaeth Amaeth a Choedwigaeth yn Nhwrci lle canolbwyntiai ar gynlluniau i amddiffyn basnau dŵr yfed. Diddordebau ymchwil Merve yw adfer, ansawdd dŵr, planhigion dŵr, amddiffyn basnau a deinameg hylif gyfrifiadol.

Ei swyddogaeth hi ym mhrosiect Brainwaves yw dadansoddi effeithiau amodau amgylcheddol ar feithrin llinad y dŵr a gwella effeithlonrwydd systemau tyfu dan do/awyr agored.

Mae cyhoeddiadau Merve i’w cael ar ei phroffeil hi ar Research Gate 

Os hoffech chi gysylltu â Merve ynglŷn â’i hymchwil dros brosiect Brainwaves, neu ei diddordebau ymchwil ehangach, mae croeso ichi anfon gair ar: msasmazkislioglu@ucc.ie

Dr Gruffydd Lloyd-Jones, AU

Ymchwilydd Ôl-Ddoethuriaeth

E: glj16@aber.ac.uk

Brainwaves Post Doctoral Researcher Dr Gryffydd Jones

Ac yntau’n hanu’n wreiddiol o Benrhyn Llŷn yng ngogledd-orllewin Cymru, mae Gruff yn dod o gefndir amaethyddol. Mae ei deulu’n cynnwys ffermwyr cig eidion a llaeth fel ei gilydd, rhywbeth sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol iddo o’r diwydiant, a dealltwriaeth o’r heriadau y mae’n eu hwynebu.

Cwblhaodd Gruff PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i sut y bydd y brysgwydden ymledol Rhododendron ponticum yn dylanwadu ar gymunedau o feicrobau yn y pridd a phrosesau megis pydru mater organig ac ailgylchu maetholion. Wedi cwblhau ei PhD, bu’n gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan fagu cysylltiadau â thirfeddianwyr i ddifa rhywogaethau ymledol ar eu tir. Mae ei swyddogaeth ef ym mhrosiect Brainwaves fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethuriaeth, ac yntau’n chwarae rhan mewn goruchwylio datblygu systemau awyr agored a than do i dyfu llinad y dŵr.

Mae cyhoeddiadau Gruff i’w gweld yn y fan hon a gellir cysylltu ag ef ar: glj16@aber.ac.uk

Mr. Bob Jacques, AU

Technegydd

E: rgj2@aber.ac.uk

Ac yntau’n enedigol o Fforest y Ddena, mae Bob yn byw ers mwy na 30 mlynedd yng nghefn gwlad yng Ngheredigion.

Ers deng mlynedd bellach y mae’n gweithio gyda busnesau compostio bach, gan ddatblygu a marchnata cyfryngau tyfu di-fawn wedi’u seilio ar wrteithiau anifeiliaid a rhisgl coconyt wedi’u compostio gan fwydod. Daeth Bob i Brifysgol Aberystwyth yn gyntaf yn 2017 i ymchwilio i ecoleg a defnydd garddwriaethol compost mwydod (thesis MPhil ac erthygl mewn cyfnodolyn). Ers hynny, bu’n dal nifer o swyddi fel technegydd yn y brifysgol yn ymwneud â phriddoedd amaethyddol a systemau tyfu. Mae Bob wedi gweithio mewn materion amgylcheddol a chynaliadwyedd drwy’r rhan fwyaf o’i yrfa, yn y sector breifat a'r drydedd sector ill dwy, gan adeiladu ar ei gefndir academaidd mewn asesu a datblygu adnoddau naturiol (MSc Prifysgol East Anglia) a söoleg (Prifysgol Rhydychen).

Dr Siobhan Higgins, UCC

Rheolwr Prosiect 

E: siobhan.higgins@ucc.ie

Magwyd Siobhan yn Swydd Kilkenny yn Iwerddon ac ar hyn o bryd y mae’n byw i’r de o ddinas Cork yn nhref Carrigaline gyda’i theulu. Mae ganddi PhD mewn Maetheg o Goleg Prifysgol Cork, ac fe symudodd wedyn i’r Alban i ddarlithio ym Mhrifysgol Glasgow am 8 mlynedd cyn cymryd seibiant yn ei gyrfa i fagu teulu. Ar ôl dychwelyd i Cork, bu’n gweithio’n rhan amser mewn gwahanol swyddi ymchwil a gweinyddu ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Cork a’r rheini’n cynnwys lledaenu a rheolaeth brosiect ar brosiect ODIN, a gafodd ei ariannu gan yr UE. Mae hi wedi cwblhau Tystysgrif mewn Rheoli Prosiectau (CAPM) ac y mae hi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Diploma mewn Hinsawdd a Chynaliadwyedd. Bydd Siobhan yn mwynhau garddio, cerdded, a chwarae tennis er mwyn hamdden.

Ei swyddogaeth hi ym mhrosiect Brainwaves yw Rheolwr Prosiect. Os hoffech gysylltu â Siobhan mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar y prosiect, mae croeso ichi anfon gair ati ar siobhan.higgins@ucc.ie

Ms. Lesley Langstaff, AU

Rheolwr Prosiect Lleol 

E:  lkl1@aber.ac.uk 

Magwyd Lesley yng nghefn gwlad Swydd Rydychen a symudodd i Orllewin Cymru 30 mlynedd yn ôl, a hithau’n byw ychydig i’r gogledd o Aberystwyth gyda’i theulu a haid fach o ieir. Ar ôl cael ei hyfforddi yn gyntaf fel nyrs Theatr penderfynodd ddychwelyd at addysg a chwblhaodd BSc mewn Rheolaeth Adnoddau Gwledig yn 1995. Ym mlwyddyn olaf ei gradd, arbenigodd mewn amaeth organig a chadwraeth â thraethawd estynedig terfynol a gyfunai’r elfennau hyfrydol o falwod a slyri!

Ers graddio bu Lesley’n gweithio ar ystod eang o brosiectau fel ymchwilydd a hefyd, mewn blynyddoedd diweddarach, mewn swyddogaeth rheoli prosiect ar brosiectau a ariannwyd gan yr ERDF, a gweinyddu prosiect ar brosiect Horizon 2020. Mae ei swyddogaeth yn Brainwaves fel y Rheolwr Prosiect Lleol i dîm Prifysgol Aberystwyth sydd wedi’i leoli yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Os hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw un o weithgareddau ymestyn allan arfaethedig prosiect Brainwaves yng Nghymru, mae croeso ichi gysylltu â Lesley ar: lkl1@aber.ac.uk

Ms. Eilish Kennedy, UCC

Cynorthwy-ydd Ymchwil Technegol

E: eilishkennedy@ucc.ie

Graddiodd Eilish yn ddiweddar o Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC. Astudiodd wyddoniaeth amgylcheddol gan ymddiddori’n arbennig mewn amaethyddiaeth gynaliadwy. Un o Tipperary yw Eilish ac y mae’n byw yn Cork er 2018.

Bydd Eilish yn cynorthwyo aelodau eraill o dîm Brainwaves â gwaith labordy, casglu samplau ac yn y blaen. Mae hi’n gobeithio cychwyn ar ei PhD ei hun mewn ymchwil ar linad y dŵr yn ystod y misoedd nesaf yma.

Ms. Niamh Daly, UCC

Cynworthwy-ydd Ymchwil Gweinyddol  

E: niamhdaly@ucc.ie  

 

Un o Orllewin Cork yw Niamh yn wreiddiol ac fe dreuliodd fwy na 10 mlynedd yn gweithio ac yn teithio yn Awstralia ond y mae hi bellach yn byw yn Cork gyda’i theulu.Ffermwyr cnydau o Kilkenny oedd taid a nain Niamh, felly fe dreuliodd rai hafau yn ei phlentyndod yn helpu ar y fferm yn ystod y cynhaeaf.

Mae gan Niamh gymhwyster ôl-raddedig mewn Archeoleg a bu’n gweithio ar brosiectau cloddio at ddibenion ymchwil a masnachol fel ei gilydd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mewn blynyddoedd diweddar mae Niamh wedi gweithio mewn gweinyddu academaidd yng Ngholeg Prifysgol Cork. Un ran-amser yw ei swyddogaeth ym mhrosiect Brainwaves i oruchwylio’r adrodd ariannol a rheolaeth gweithgareddau ymestyn allan y prosiect.

Os hoffech chi ymwneud ag unrhyw weithgareddau ymestyn allan arfaethedig gan Brainwaves neu gysylltu â ni mewn perthynas â chyfranogiad gennym ni mewn unrhyw weithgareddau ymestyn allan, mae croeso ichi gysylltu â Niamh ar niamhdaly@ucc.ie

Dr. Paul Bolger, UCC

Ymgynghorydd Academaidd

E: p.bolger@ucc.ie 

Y mae Dr Paul Bolger yn Rheolwr i’r Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol yn UCC.

Y mae ganddo PhD mewn Cemeg a Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac y mae wedi gweithio ar draws y byd academaidd, diwydiant a llywodraeth am fwy na 25 mlynedd gan ddatblygu atebion ymchwil hirdymor i heriadau cynaliadwyedd byd-eang.

Y mae ar hyn o bryd yn Brif Ymchwilydd ar nifer o brosiectau ymchwil ar newid hinsawdd a’r economi gylchog gan gynnwys Imagining2050 sy’n delweddu llwybrau tuag at Iwerddon ddi-garbon, a NEWTRIENTS sy’n ymchwilio i ffyrdd o ennill gwerth o ddŵr gwastraff o’r diwydiant llaeth.

Y mae gan Dr Bolger ddiddordeb mewn sut y gellir defnyddio ymagweddiadau rhyngddisgyblaethol a thrawsddigyblaethol i greu canlyniadau ac iddynt effaith fwy i ymchwil ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Y mae’n dysgu modiwl am Arweinyddiaeth er mwyn Cynaliadwyedd fel rhan o’r HDip Cynaliadwyedd mewn Mentr yn UCC. Y mae’n Ysgolhaig Fulbright Unol Daleithiau-Iwerddon ac yn aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd a Gwyddorau Amgylcheddol Academi Frenhinol Iwerddon.

O fewn prosiect BRAINWAVES, y mae gan Dr Bolger ddiddordeb mewn sut y gellir mwyhau a masnacheiddio technolegau i gau’r cylch ar ffrydiau dŵr gwastraf. 

Professor Edmond Byrne, UCC

Ymgynghorydd Academaidd

E: e.byrne@ucc.ie 

Mae Edmond Byrne yn Athro Peirianneg Prosesau a Chemegol yng Ngholeg Prifysgol Cork. Ac yntau’n brif ymchwilydd yn Athrofa Ymchwil Amgylcheddol (ERI) UCC, mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymdroi o gwmpas cynaliadwyedd, ymagweddiadau trawsddisgyblaethol, a chyfraniadau priodol gan beirianneg ac addysg beirianneg. Y mae wedi cydolygu dau lyfr yn y maes hwn (Transdisciplinary Perspectives on Transitions to Sustainability (Routledge 2017), a Metaphor, Sustainability, Transformation: Transdisciplinary Perspectives (Routledge, 2021)). Y mae hefyd wedi ymchwilio ac yn dysgu ym maes mecaneg hylifol a sut y bydd patrymau llif hylifau’n effeithio ar ddylunio offer a systemau prosesau bwyd amaethyddol, rhywbeth sydd wedi bod yn ddylanwad ar ei gyfraniadau at Brainwaves. 

Gweler proffeil llawn Ed ar: http://publish.ucc.ie/researchprofiles/D015/ebyrne  

Dr. Fatemeh Kavousi, UCC

Ymgynghorydd Academaidd

E: fatemeh.kavousi@ucc.ie

Ymunodd Fatemeh ag Adran Peirianneg Proses a Chemegol UCC fel Darlithydd Eli Lilly mewn Peirianneg Fiocemegol/Fiofferyllol yn 2019. Enillodd ei BE a’i ME mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Iran (IUST) yn 2007 a 2011, yn y drefn honno. Gan ddechrau yn ystod ei hastudiaethau israddedig, cyflawnodd Fatemeh amryw o swyddogaethau mewn diwydiannau Polymer ac athrofeydd ymchwil am fwy na 6 blynedd. Yn 2012, fe gafodd Ysgoloriaeth PhD Embark Initiative yr IRC a hwylusodd ei hymchwil PhD ar ‘Hydrodynamics and Mass Transfer Analysis of PDMS Hollow Fibre Membranes Modules’ yn UCD o dan oruchwyliaeth yr Athro Eoin Casey. Ar ôl cwblhau ei PhD, ymgymerodd â swyddogaeth Athro Cynorthwyol yn Ysgol Peirianneg Cemegol a Biophrosesau UCD lle yr oedd yn gyfrifol am fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig. Prif ddiddordebau ymchwil Fatemeh yw Deinameg Hylifol a Phrosesau Gwahanu â Philen â ffocws ar Brosesau Biocemegol a Biofferyllol.

Gweler proffeil llawn Fatemeh yn y fan hon.

Mae Dr. Kavousi yn dod ag arbenigedd i Brainwaves ym meysydd peirianneg fiocemegol a deinameg hylifol, ac fel cyd-oruchwyliwr ar elfennau technegol o ddyluniad y system dan do.

Dr Alan Morrison, UCC

Ymgynghorydd Academaidd

E: a.morrison@ucc.ie

Graddiodd Alan ag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Drydanol o UCC yn 1992. Cwblhaodd ei PhD yn y Ganolfan Ymchwil Ficro-electroneg Genedlaethol (NMRC) yn Cork a Labordai Ymchwil Philips yn Eindhoven, gan raddio yn 1997 â thesis ym maes laseri lled-ddargludyddol.

Gweithiodd fel Gwyddonydd Ymchwil yn yr NMRC lle roedd ganddo gyfrifoldeb dros ffotonigion silicon, yn enwedig datblygu synwyryddion un ffoton a dyfeisiau ffotofoltäig.

Ymunodd â UCC fel academydd yn 1998, cafodd ei ddyrchafu i Uwch Ddarlithydd yn 2006 a bwriodd ddau dymor yn Ddeon Peirianneg o 2012 i 2018. Y mae ar hyn o bryd yn Is-Ddeon dros Faterion Israddedig yn y Coleg Gwyddoniaeth, Peirianneg a Gwyddoniaeth Fwyd.

Y mae diddordebau ymchwil Alan yn cynnwys synhwyro un ffoton, synwyryddion optegol, deuodau allyrru golau, ffotofoltäigion, dylunio cylchedau a chymhwyso technolegau opto-electronaidd.

Dr Sarah Dalesman

Ymgynghorydd Academaidd 

E: sad31@aber.ac.uk

Mae gan Dr. Sarah Dalesman PhD yn ecoleg ymddygiadol malwod dŵr. Mewn cymuned wledig yng Ngogledd Swydd Efrog y magwyd Sarah, ond mae hi wedi treulio amser yn byw yn yr Alban, Awstralia, Canada ac yn fwyaf diweddar Dyfnaint cyn symud i Aberystwyth yng Nghymru.

Fe ymunodd ag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth yn 2014 fel darlithydd mewn bioleg dŵr croyw. Mae gan Sarah 15 mlynedd o brofiad ymchwil yn gweithio gyda rhywogaethau dŵr croyw, a hithau’n arbenigo mewn ymaddasiad poblogaethau ac ymatebion i straen amgylcheddol. Mae gwaith blaenorol mewn systemau amaethyddol wedi canolbwyntio ar fesur effeithiau rheoli cynefinoedd dŵr croyw ar dir amaethyddol ar ecoleg poblogaethau a throsglwyddo parasitiaid. Mae ei gwaith ymchwil cyfredol yn cynnwys cloriannu tyfiant Lemna ar draws graddiannau amgylcheddol.

Mae ei swyddogaeth fel rhan o’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae meysydd diddordeb yn y prosiect yn cynnwys cyfraniadau at ddylunio systemau awyr agored i liniaru ar unrhyw fygythiadau a pheryglon o goloneiddio gan infertebrata ac asesu sut y gallai’r system liniaru ar effeithiau llygru ac ewtroffeiddio systemau dŵr croyw ar bwys ffermydd. Gellwch gael gwybod rhagor am Sarah ar ei phroffeil ymchwil, ei phroffeil staff a LinkedIn

Dr Paul Robson

Ymgynghorydd Academaidd 

E: ppr@aber.ac.uk

Biolegydd planhigion yw Paul ac mae’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers mwy nag 20 mlynedd. Bu hefyd yn gweithio ym Mhrifysgolion Warwig a Chaerlŷr, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn ffotobioleg a chyflawni effeithiau cynaliadwy drwy fioleg blanhigion. Y mae wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect yn cydweithio â diwydiant i ddatblygu planhigion at ystod o ddefnyddiau o ynni i gemegolion i fwyd maethlon. Mae ei ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar ddatblygu ffynonellau bioadnewyddol o fio-màs ac amaethyddiaeth mewn amgylchedd dan reolaeth. Mae’r ddau faes ymchwil hyn yn dod at ei gilydd yn ei swyddogaeth o fewn prosiect Brainwaves lle mae’n rhan o’r tîm sy’n datblygu systemau tyfu ar gyfer Lemna ac wrth ddatblygu’r defnydd o Lemna mewn amaeth a diwydiant. Mae proffeil ymchwil Paul i’w weld yn y fan hon, a gellir cysylltu ag ef ar: ppr@aber.ac.uk

https://www.researchgate.net/profile/Paul-Robson-6

 

Dr John Scullion

Ymgynghorydd Academaidd 

E: jos@aber.ac.uk

Un o Felffast yn enedigol yw Dr John Scullion ond y mae’n byw yng Nghymru ers tua 40 mlynedd bellach, yn gyntaf yn Abertawe, ac wedyn ers 30 mlynedd yn Aberystwyth. Astudiodd John ar gyfer gradd mewn Gwyddor Amgylcheddol ar gampws Coleraine Prifysgol Wlster, ac wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ei PhD, lle mae’n Ddarllenydd mewn Gwyddor Pridd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Yn ei PhD ymchwiliodd John i adfer priddoedd ar safleoedd lle bu gweithfeydd glo brig, ac fe reolodd brosiect a ariannwyd gan Glo Prydain ar fferm cig eidion a defaid arbrofol yn ne Cymru dros gyfnod o 10 mlynedd. Rhedwyd y fferm fel mentr fasnachol â’r nod o ymgorffori darganfyddiadau o leiniau ymchwil i system amaethyddol hyfyw a hyrwyddai broses adfer pridd gynaliadwy hefyd.

Mae gan John ystod eang o ddiddordebau ymchwil mewn gwyddor pridd a rheoli pridd. Y mae ar hyn o bryd yn Ddirprwy Olygydd i’r European Journal of Soil Science. O berthnasedd arbennig i BRAINWAVES mae gwaith ar y defnydd o slwtshys carthion mewn adfer tir, trin trwytholchion o safleoedd tirlenwi, a’r defnydd o weddillion treuliad anaerobig mewn amaethyddiaeth. Mae ei swyddogaeth yn BRAINWAVES yn ymwneud yn bennaf â chemeg a thriniaeth gwastraffoedd amaethyddol, yn ogystal â defnydd potensial o’r adnoddau hyn mewn amaeth.

Mae gan John fwy na 100 o gyhoeddiadau ymchwil sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau’n ymwneud â phridd a llygredd. Yn ogystal â Brainwaves, mae prosiectau ymchwil cyfredol/diweddar yn cynnwys FLEXIS (dal a storio carbon mewn priddoedd), PROSOIL (rheolaeth amaethyddol ar briddoedd i hybu eu hiechyd), Climate Smart Grassland (lliniaru ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar systemau pridd-planhigion) a mapio priddoedd ar St Helena at ddibenion cynllunio a chadwraeth. Yn ychwanegol at broffeil ymchwil gweithgar, bydd John yn dysgu cemeg, gwyddor pridd a phynciau llygredd i israddedigion ar bob lefel ac ar gynlluniau Gradd Meistr â hyfforddiant.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA