Gwybodaeth am BRAINWAVES

 

Amaethyddiaeth rheoli gwastraff 

Mae amaethyddiaeth yn Iwerddon a Chymru ill dwy’n cynnwys diwydiannau godro a chig eidion cryf. Mae’r diwydiannau hyn yn gynhyrchwyr ac allforwyr o bwys i farchnadoedd byd-eang, yn ogystal â bod yn gyflogwyr mawr yng nghefn gwlad. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod 1.4 a 0.5 miliwn o wartheg godro yn Iwerddon a Chymru, yn y drefn honno, a bydd y gwartheg hyn yn gollwng hyd at 40-60kg o wastraff y fuwch y dydd. Mae’r gwastraff yn cynnwys cymysgedd o solidau organig, nitrogen, potasiwm a ffosffad. Y mae costau sylweddol i ffermwyr ynghlwm wrth storio a rheoli’r adnodd hwn ymhellach.

Llygru ecosystemau dŵr 

Mae llygru ecosystemau dŵr yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth ac i gynaliadwyedd cymunedau ar draws y byd. Mae gollwng gormodedd o elifion llawn nitrogen a ffosfforws i’n nentydd, ein hafonydd, ein llynnoedd a’n haberoedd yn arwain at dwf eithafol gan algâu a bacteria, a dihysbyddu’r ocsigen yn y dŵr yn sgil hynny. Gall y dirywiad amgylcheddol sy’n dod o ganlyniad ladd organebau dŵr, megis infertebrata a physgod. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gaffaeledd ehangach gwasanaethau ecosystem allweddol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Gan fod disgwyl cynnydd mewn cynhyrchiant bwyd ar draws y byd, mae taer angen i amaeth fod yn gyfeillgar o ran carbon, ar yr un pryd ag amddiffyn ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. Mae sgyrsiau cenedlaethol yn dechrau tynnu sylw at y bygythiadau hyn, ond mae llawer o waith i’w wneud eto. 

Dyma ble mae Brainwaves yn dod i mewn! 

Economi Gylchog 

Cyfeirir yn aml at systemau cynhyrchiant cylch caeedig fel yr Economi Gylchog. Mae’r ffordd hon o fynd ati’n golygu lleihau’r traul ar ddeunyddiau crai a fewnosodir a’r allgynhyrchion a gollir, drwy adfer gwastraff. Yn gryno, y nod yw lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff sydd eisoes yn bod. Mae ennill gwerth, h.y. cael cynhyrchion gwerthfawr o wastraff, yn rhan bwysig o hyn.

Technolegau arloesol a phlanhigion gwyrthiol 

Mae llinad y dŵr cyffredin (Lemna minor) yn gynhenid i Iwerddon a Chymru. Mae rhywogaethau llinad ymysg y planhigion sy’n tyfu gyflymaf ar y blaned, maent yn goddef amoniwm (sydd i’w gael mewn gwastraff fferm) ac yn cynhyrchu amino-asidau hanfodol. Dangoswyd bod rhywogaethau llinad yn tyfu ar amryw o ffrydiau gwastraff y gallant dynnu maetholion planhigion ohonynt, a thrwy hynny leihau lefelau maetholion mewn dyfroedd gwastraff. Mae’r bio-màs llinad llawn protein a geir o ganlyniad yn cynrychioli ymborth amaethyddol gwerthfawr, â’r potensial i gymryd lle ffa soia a fewnforir, gan leihau dibyniaeth ffermwyr ar ymborth wedi’i fewnforio. Yn y ffordd hon, mae cynhyrchu ymborth amaethyddol sy’n uchel ei werth ac yn llawn protein yn gysylltiedig ag adferiad amgylcheddol. Dyma’r Economi Gylchog ar waith. 

Defnyddio’r Economi Gylchog i ffermwyr 

Gan adeiladu ar ymchwil sydd eisoes yn bodoli bydd Brainwaves yn datblygu technolegau arloesol, economaidd hyfyw i dyfu llinad y dŵr cyffredin ar wastraff fferm ac yn integreiddio’r rhain ag amgylchiadau lleol i ffermwyr yn Iwerddon a Chymru. Gan fanteisio ar y diddordeb mawr yn y gymdeithas mewn cynaliadwyedd, ynghyd â chamau ymlaen mewn technoleg dyfu, fe ddatblygwn ni systemau arddangos dan do ac awyr agored i fwyafu capasiti twf a ffytoadferiad llinad y dŵr, a adeiledir mewn cydweithrediad â BBaChau yn Iwerddon a Chymru.

Caiff cnydau llinad y dŵr eu tyfu naill ai mewn systemau cost isel sy’n defnyddio pwll yn yr awyr agored, wedi’u cyfarparu â synwyryddion i fonitro maetholion (Pecyn Gwaith 2), neu mewn systemau hydroponeg â rheolaeth hinsoddol, wedi’u goleuo â deuodau allyrru golau ac wedi’u stacio’n fertigol (Pecyn Gwaith 3). Bydd Brainwaves yn rhoi cymorth ac arweiniad i ffermwyr a defnyddwyr eraill ddefnyddio’r systemau hyn. Bydd gweithdai arddangos yn gadael i randdeiliaid weld sut y gellir manteisio ar systemau llinad y dŵr i lanhau dyfroedd wedi’u llygru. Ymchwilir hefyd i ddefnyddiau newydd i’r bio-màs llinad drwy gydweithio â rhanddeiliaid yn y diwydiant ymborth (Pecyn Gwaith 5).

Dull cylch caeedig Brainwaves yn gryno

Problem

  • Mae gwastraff fferm yn gostus ei storio ac yn destun rheoleiddio trwm
  • Gall achosi difrod i’r amgylchedd os caiff ei ollwng mewn ffordd amhriodol
  • Ymdrechion cryf cenedlaethol a chan yr UE i leihau llygredd gan elifiannau mewn llynnoedd, afonydd ac ati

Syniad

  • Mae’r ‘planhigyn gwyrthiol’ llinad y dŵr (lemna minor) wedi cael ei gysylltu ag adfer dŵr gwastraff
  • Bydd llinad y dŵr yn tyfu’n gyflym, ac mae’n gynhenid i Iwerddon a Chymru
  • Llinad y dŵr i gael ei feithrin ar ddŵr gwastraff yn ein cyfleusterau pwrpasol ar y safle
  • Mae ein tîm o wyddonwyr planhigion yn datblygu ac yn optimeiddio systemau tyfu dan do ac awyr agored

Canlyniadau

  • Bydd llinad y dŵr yn amsugno maetholion (nitradau a ffosffadau) o’r ffrwd wastraff wrth iddo dyfu
  • Maetholion yn cael eu hadennill ar ffurf bio-màs llinad
  • Yn anelu at ddatblygu system fodel ymarferol i ffermydd

Cynhyrchion

  • Dŵr gwastraff wedi’i lanhau (i’w ailddefnyddio neu ei ollwng)
  • Isgynnyrch gwerthfawr (ffynhonnell ymborth llawn protein o’r bio-màs llinad), sy’n lleihau dibyniaeth ffermwyr ar ymborth ffa soia wedi’i fewnforio
  • Dal a storio carbon

Meithriniadau Stoc Llinad y Dŵr yn UCC

Meithriniadau Stoc Llinad y Dŵr yn UCC

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA