Beth yw prosiect BRAINWAVES?
Mae Brainwaves yn cymryd ymagweddiad economi gylchog at amaethyddiaeth gynaliadwy. Gan ddefnyddio planhigyn dŵr cyffredin, o’r enw llinad y dŵr, mae gwyddonwyr Brainwaves yn treialu systemau technolegol arloesol i dyfu llinad y dŵr ar ffrydiau gwastraff amaethyddol, rhywbeth a wnaiff, os bydd yn llwyddiannus, gynnig i ffermwyr y buddion deublyg o lanhau gwastraff fferm ar yr un pryd â meithrin cnwd sy’n llawn protein. Yn ei hanfod, drwy amsugno maetholion gormodol (nitradau a ffosffadau), gall llinad y dŵr greu gwerth o wastraff ar ffurff cnwd llawn protein y gellir ei ddefnyddio mewn ymborth i anifeiliaid, gan leihau dibyniaeth ffermwyr ar ffa soia wedi’u mewnforio. Mae gan yr ymchwil hon y potensial i ddod â buddion economaidd ac amgylcheddol gwirioneddol i arferion ffermio yn Iwerddon, Cymru, a thu hwnt.
-1350x500.jpg)
Beth sy’n Digwydd

St Patrick's Day 2023
(2).png)
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023
.jpg)
St David's Day 2023
_page-0001-282x400.jpg)
Save the Date!! Duckweed Event June 9th, 2023 at UCC.
Partneriaid
Prosiect ymchwil 3.5 blynedd yw Brainwaves a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon a Chymru.
Mae partneriaid Prifysgol Brainwaves yn cynnwys:
-Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol a’r Athrofa Ymchwil Amgylcheddol yng Ngholeg Prifysgol
Cork yn Iwerddon.
-Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.