Newyddion

Y Sioe Frenhinol: Crasu yn y gwres!

11 Awst 2022
Stondin Brainwaves yn y Sioe Frenhinol 2022

Ar ôl absenoldeb o 2 flynedd, daeth y Sioe Frenhinol yn ôl yn y gwres chwilboeth y mis diwethaf a hithau’n digwydd yn ystod y dyddiau twymaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru! Roedd ein tîm prosiect wrth eu bodd o arddangos Brainwaves ar y 18fed a’r 19eg o Orffennaf â stondin y tu allan i Bafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth.

Roedd stondin Brainwaves yn rhoi cysgodfa fach rhag haul y bore felly, er gwaethaf y gwres, roedd gennym lif cyson o bobl yn stopio i ymweld â ni. Profodd llinad y dŵr yn atyniad cyfareddol i’r plant a oedd yn eistedd wrth fyrddau lliwio Prifysgol Aberystwyth gerllaw, a ddaeth i gael sgwrs â ni a dod â’u rhieni draw i edrych hefyd!

Diolch i bawb a drawodd heibio i siarad â’n tîm ymchwil, gwylio ein system pen bwrdd ar waith a rhannu eu harbenigedd a’u safbwyntiau eu hunain â ni. Gwnaethom fwynhau dau ddiwrnod o sgyrsiau diddorol dros ben am wyrthiau llinad y dŵr, ein gwaith mewn perthynas ag economi gylchol, y cysyniad o systemau adfer wedi’u seilio ar linad y dŵr a llawer mwy…

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA