Newyddion

Proffeil Ymchwilydd : Ms Marion Blanchard

19 Gorff 2022
Marion wrthi’n brysur yn archwilio’r samplau o linad y dŵr

Yn ddiweddar fe dreuliodd Ms Marion Blanchard, myfyriwr Gradd Meistr o Toulouse yn Ne-Orllewin Ffrainc, beth amser yn gwirfoddoli ar Brosiect Brainwaves. Mae’n ymddangos ei bod wir wedi mwynhau’r profiad a gafodd hi a diwylliant Iwerddon. 

Fe wnaethom roi prawf ar ein sgiliau cyfweld gyda Marion a gofyn iddi am yr amser a dreuliodd yn Iwerddon. 

 

Beth yw’ch enw chi a beth yr ydych yn ei astudio?

Marion Blanchard yw f’enw i ac rwyf yn astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Agronomeg, Ecoleg a Bioleg yn yr Ecole Nationale Supérieure Agronomique de Toulouse (ENSAT) yn Toulouse, Ffrainc.

 

Beth sy’n dod â chi i Goleg Prifysgol Cork?

Rwyf wedi gwneud sawl interniaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma mewn gwahanol swyddogaethau ymchwil i ennill gwybodaeth a phrofiad. Des i i Iwerddon yn Chwefror, 2022 i ymuno â thîm Brainwaves ac i ennill rhywfaint o brofiad â’r planhigyn llinad y dŵr, sy’n perthyn yn frodorol i Iwerddon.

 

Pa fath o brofiad a gawsoch chi ar Brosiect Brainwaves?

Drwy gydol yr interniaeth tri mis yma yn UCC, rwyf wedi bod yn gweithio â gwahanol hilion o’r planhigyn llinad y dŵr, gwahanol ffrydiau gwastraff a systemau llif. Un system felly oedd system 750 Litr mewn amgylchedd lled awyr agored a oedd wedi’i dylunio i efelychu’r amodau a geid mewn amgylchedd amaethyddol.

A gawsoch chi hwyl wrth ennill y profiad hwn i gyd?

Fe fwynheuais i’r rhan fwyaf o’m hamser yn y labordy, lle roeddwn yn arbrofi â gwahanol lefelau pH, cryfderau golau, crynodiadau ffrydiau gwastraff a hilion o linad y dŵr. Rwyf wedi dysgu llawer am amodau twf planhigion, yn ogystal â sut i wneud profion dadansoddiad dŵr.

Roedd y tîm yn groesawgar iawn ac roeddent yno bob amser i ddysgu sgiliau newydd imi ac i ddangos cefn gwlad hyfryd Iwerddon imi. Yn ystod f’amser yma fe gefais i gyfle i ddarganfod arfordir deheuol a gorllewinol Iwerddon â’i holl drefi prydferth a’i dywydd cyfnewidiol! Yr uchafbwynt i mi oedd y cyfle i gwrdd â morfilod yng Ngorllewin Cork!

Ble nesaf?

Mae hi wedi bod yn brofiad gwych gweithio ar brosiect Brainwaves yma yn UCC ac rwyf yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r prosiect hwn ar waith ryw ddydd. Rwyf yn mynd i ffwrdd ar wyliau nesaf i gael ychydig o amser hamdden ac i archwilio teyrnas Gwlad y Tai.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA