Newyddion
Carnifal Gwyddoniaeth Cork: Yn ôl yn Llwyddiant Ysgubol!!

Ar ôl absenoldeb o 2 flynedd, daeth Carnifal Gwyddoniaeth Cork yn ôl yn llwyddiant ysgubol y mis hwn. Roedd ein tîm prosiect wrth eu bodd o arddangos Brainwaves yn y sbloet wyddonol hon, a gynhaliwyd ym Mharc Fitzgerald ar 11eg a’r 12fed o Fehefin.
Wedi’i drefnu gan Old Cork Waterworks Experience â nawdd gan Gyngor Dinas Cork ac SFI, roedd y digwyddiad di-dâl hwn, a barhaodd am benwythnos, yn arddangos rhyfeddodau gwyddoniaeth i bobl o bob oed. Roeddem yn rhan o raglen doreithiog yn cynnwys arddangosfeydd byw, gweithdai ymarferol ac arbrofion rhyngweithiol.
Diolch i bawb a drawodd heibio i sgwrsio â’n tîm ymchwil, darganfod ein system lifeiriant pen bwrdd ar waith, gwylio ein fideo a rhannu eu mewnwelediad a’u safbwyntiau eu hunain â ni. Roeddem wrth ein bodd yn enwedig o weld dros 54 o bobl newydd yn tanysgrifio i newyddlen ein prosiect. Pwy a feddyliai y gallai un planhigyn bach fod mor ddiddorol!
Ymwelodd cyfanswm anhygoel o 25,000 o bobl â’r wledd hon o ryfeddodau STEM yn ystod y penwythnos, yn ôl amcangyfrifon y trefnwyr. Gwnaeth hyd yn oed An Taoiseach Micheál Martin ac Arglwydd Faer Dinas Cork Colm Kelleher gymryd yr amser i daro heibio i’n stondin ar Exploration Avenue i drafod potensial llinad y dŵr i amaethyddiaeth yn Iwerddon.
Yn cyd-daro â’r digwyddiad, cynhwysodd y cylchgrawn gwyddoniaeth a thechnoleg Silicon Republic gyfweliad ag ymchwilydd arweiniol y prosiect Yr Athro Marcel Jansen am ei ymchwil a’i ymwneud â llinad y dŵr. Fe gewch chi ei weld yn y fan hon.
At ei gilydd, bu’r Carnifal adfywiedig yn llwyddiant ysgubol. Roeddem wrth ein bodd o gwrdd â chynifer o ymwelwyr gwych, chwilfrydig o bob oed â diddordeb yn ein gwaith ni ar economi gylchol ac yn frwd am y cysyniad o systemau adfer wedi’u seilio ar linad y dŵr. Siŵr o fod, bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o selogion STEM – gan gynnwys egin wyddonwyr planhigion!