Newyddion
Brainwaves yn mynd ar yr awyr ar gyfer Mooney Goes Wild ar RTÉ Radio 1
-777x400.jpg)
Bu Prif Ymchwilydd prosiect Brainwaves, yr Athro Marcel Jansen, ar yr awyr ar sioe boblogaidd bywyd gwyllt a natur RTÉ Radio 1, Mooney Goes Wild. Gan ymddangos ochr yn ochr â Llywydd UCC, yr Athro John O'Halloran, tynnwyd sylw yn y darn at y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yng Ngholeg Prifysgol Cork ar newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a’r economi gylchol.
Canolbwyntiodd yr Athro Jansen ar y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan dîm Brainwaves ar ddatblygu dull ffytoadferiad arloesol – sef glanhau dŵr gwastraff amaethyddol gan ddefnyddio planhigion llinad y dŵr brodorol. Esboniodd y ffordd y gellir defnyddio systemau llinad y dŵr mewn lleoliadau ar ffermydd, yr heriadau ymchwil sy’n cael sylw i optimeiddio’r systemau hyn i’w defnyddio’n fasnachol ar raddfa fawr, a’r buddion economaidd i ffermwyr, gan gynnwys creu ffynhonnell ymborth llawn protein drwy ddefnyddio bio-màs llinad y dŵr.
Darlledwyd y darn yn fyw ar 11eg o Ebrill, ond gellwch chi wrando arno yn y fan hon o 43 munud i mewn.