Newyddion
Diwrnod Ewrop 2022

I nodi Diwrnod Ewrop 2022, ymunodd Brainwaves ag arddangosfa gyhoeddus o brosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE a gynhaliwyd yn swyddfeydd Cyngor Swydd Wexford ar 9fed o Fai.
Roedd bron i ddwsin o brosiectau ar draws rhanbarthau de a dwyrain Iwerddon yn bresennol ar y diwrnod, gan dynnu sylw at ehangder y gwaith cyffrous sy’n digwydd â chyllid o’r UE ar draws ystod amrywiol o sectorau gan gynnwys twristiaeth, technoleg a newid hinsawdd.
Dros Fôr Iwerddon yng Nghymru, mwynhaodd y tîm ymchwil bicnic yn yr awyr agored gyda phrosiectau eraill a ariennir gan yr UE ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Isod: Y tîm yng Nghymru’n mwynhau saib haeddiannol yn yr awyr iach ar Ddiwrnod Ewrop