Newyddion
Mae gallu Lemna i oroesi mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau’n syfrdanol!
Ers blwyddyn, mae Abby Campbell a Kirsty Allwood yn gweithio yng ngrŵp ymchwil BRAINWAVES sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o’r cynllun gradd blwyddyn mewn diwydiant.
Mae gan y ddwy ohonynt ddiddordeb byw mewn botaneg ac amaethyddiaeth gynaliadwy, ac felly roeddent ill dwy’n awyddus i ymuno â’r ymchwil barhaus i linad y dŵr a’r potensial sydd ganddo i adfer gwastraff amaethyddol.
Ar ôl y cyfnodau clo roeddent yn edrych ymlaen yn arw at ennill cymaint o brofiad yn y labordy ag y gallent.
Ers 10 mis maent yn archwilio pa mor dda y bydd llinad y dŵr yn tyfu ar wahanol ffrydiau gwastraff. Mae Lemna minor yn gallu goddef gwahanol amodau amgylcheddol. Maent wedi edrych ar ymatebion i amodau golau, maethynnau ac amrywiadau mewn tymheredd.
Mae Abby’n awgrymu bod “gallu Lemna minor i oroesi mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau’n syfrdanol. Os caiff yr amodau gorau posib gall dyfu’n rhyfeddol o gyflym gan ddyblu ei fio-màs mewn un wythnos. Yn wir, mae’n un o’r planhigion mwyaf gwych sydd i’w cael. Mae’n ffynnu’n arbennig ar slyri amrwd a threuliedig."
Esbonia Kirsty fod "gweddillion y broses dreulio’n ffynhonnell ardderchog o nitrogen ar ffurf amonia, a gaiff ei amsugno’n hawdd gan blanhigion - yn benodol, o safbwynt ein diddordebau ni, llinad y dŵr". I dyfu llinad y dŵr, buont yn profi gwahanol grynodiadau i ddarganfod y lefelau gorau o amoniwm i gael y cynhyrchiant bio-màs gorau.
Felly, beth yw diben eu holl brofiad ymarferol yn y labordy a thyfu llinad y dŵr mewn gweddillion o’r broses dreulio?
Wel, y nod yw cynhyrchu ymborth i anifeiliaid gan ei fod wedi cael ei ddangos bod llinad y dŵr yn fwyd maethlon, llawn protein i wahanol anifeiliaid fferm (ac i bobl hefyd!). Dangosodd ymchwil gychwynnol y merched fod hyn, drwy ddilyn dull economi gylchol, yn bosib iawn, ac felly maent wedi bod yn gweithio ar optimeiddio’r amsugniad maethynnau drwy addasu amodau tyfu i wella hyfywedd masnachol y dull hwn ymhellach.
Rydym yn dymuno pob lwc i’r gwyddonwragedd planhigion addawol hyn gan fod eu dyfodol i’w weld yn ddisglair!