Newyddion

Diwrnod Dŵr y Byd 2022: Prosiect trawsffurfiannol gan UCC yn troi dŵr gwastraff yn ffynhonnell bwyd

22 Maw 2022
Yr Athro Marcel Jansen yn dangos tyfiant llinad y dŵr ar ddŵr dyframaeth

Mae ymchwilwyr yn UCC ar Brosiect Brainwaves, a ariennir gan yr UE, wedi datblygu dull arloesol, cynaliadwy o adfer dŵr gwastraff – a hynny i gyd â help gan blanhigyn cyffredin sy’n frodorol yn Iwerddon.

Mae dŵr glân yn adnodd gwerthfawr nas gwerthfawrogir ddigon, sydd, fodd bynnag, yn aml yn brin. Yn hytrach, bydd dŵr yn aml wedi’i lygru â lefelau uchel o nitrogen a ffosfforws – maethynnau sy’n aml i’w cael mewn gwrtaith ac a all achosi gordyfiant algâu a pheri i bysgod farw. “Mae hyn yn broblem fawr, a bydd cwmnïoedd a chymdeithasau’n gwario cryn arian i lanhau dŵr gwastraff, i osgoi cael effaith andwyol ar yr amgylchedd,” esbonia’r Athro Marcel Jansen, o Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC. 

Mae ymchwil Brainwaves yn troi dŵr gwastraff o’r fath o fod yn isgynnyrch anghyfleus i fod yn adnodd economaidd. Fel y mae’r Athro Jansen yn ei fynegi, “Nid cost na phroblem mo wastraff bellach ond rhywbeth a all roi gwerth”. Gallai hyn fod yn gwbl drawsffurfiannol mewn diwydiannau yn Iwerddon sy’n cynhyrchu cryn ddŵr gwastraff llawn maethynnau, megis amaeth a phrosesu bwyd. 

Mae’r broses arloesol sy’n cael ei datblygu yn UCC yn seiliedig ar dyfu planhigion dŵr arnofiol o’r enw llinad y dŵr (Lemnaceae) ar ddŵr gwastraff amaethyddol. Bydd tyfiant cyflym y planhigion yn peri bod nitrogen a ffosfforws yn cael eu hamsugno’n gyflym, a thrwy hynny’n glanhau’r dŵr. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu cyfleoedd newydd, gan fod bio-màs llinad y dŵr yn cynnwys hyd at 40% o brotein o ansawdd uchel. Mae’r protein hwn yn addas at fwydo da byw, ac yn enwedig dofednod, pysgod a moch. Felly, troir dŵr gwastraff yn adnodd gwerthfawr. 

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd ymchwilwyr o UCC yn treialu eu systemau ar ffermydd a mewn diwydiannau amaethyddol, gan roi cyfle i’r diwydiant archwilio’r system. 

Mae rheolaeth adnoddau gylchog, dolen gaeedig yn cael ei gweld fwyfwy fel peth hanfodol yn y symudiad tuag at systemau cynhyrchu mwy cynaliadwy – ac mae’r gwaith yn UCC yn rhan o’r trawsnewidiad ehangach hwn. Mae lle i fod yn obeithiol y gall yr ymchwil hon osod y sylfaen ar gyfer ymagweddiad newydd cyfan at y ffordd y byddwn yn meddwl am wastraff. “Mae gennym brawf o’r cysyniad bod ein syniadau ynghylch defnyddio llinad y dŵr i lanhau dŵr gwastraff yn gweithio,” medd yr Athro Jansen. “Y dyfodol yw defnyddio’r un systemau hyn ar raddfa fwy o lawer mewn gwahanol leoedd mewn diwydiant.”

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA