Newyddion

Straeon gan ein hymchwilwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

11 Chwef 2022
Yn glocwedd o’r pen uchaf ar yr ochr chwith mae: Niamh Daly, Anna Power, Aisling O'Flynn, Rachel O'Mahoney & Katie Sheehan i gyd yn cyfrannu at brosiect Brainwaves yn UCC.

Chwefror 11 yw seithfed Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2022. Ac yntau’n digwydd bob blwyddyn, mae’r diwrnod hwn yn bodoli i gydnabod a hybu cyfraniadau menywod a merched mewn meysydd STEM.

Thema’r flwyddyn hon yw "Tegwch, Amrywiaeth, a Chynhwysiant: Mae Dŵr Yn Ein Huno Ni ". Fel y gwelir drwy’r ddolen uchod, mae’r thema’n ceisio tynnu sylw at le menywod a merched nid yn unig fel rhai sy’n cael budd, ond hefyd fel rhai sy’n gweithredu dros newid, wrth wneud cynnydd tuag at Nod 6 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU, Dŵr Glân a Glanweithdra.

Yn unol â’r nod hwnnw, amcan ymchwil prosiect Brainwaves yw defnyddio galluoedd adfer planhigion llinad y dŵr i dynnu maethynnau gormodol allan o ddyfroedd gwastraff, gan ganiatáu iddynt gael eu hailddefnyddio neu eu gollwng, a thrwy wneud hynny hyrwyddo symud tuag at economi gylchog.

I nodi eu cyfraniadau, mae pump o’n tîm ymchwil yn rhannu eu straeon a’u profiad eu hunain fel menywod mewn STEM sy’n gweithio tuag at y nodau hyn. Bwriwch olwg yn y fan hon.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA