Newyddion
Ymchwil yn nodi 6 cham i hybu meithrin llinad y dŵr dan do mewn ffordd arloesol
![](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/brainwavesimages/brainwavesimages/1-s2.0-S0959652621044504-ga1_lrg.jpg)
Papur newydd ei gyhoeddi gan ymchwilwyr Brainwaves yn tynnu sylw at yr heriadau a’r cyfleoedd ar gyfer tyfu Lemnaceae dan do ar raddfa fawr.
Nid oes dim gwell na llinad y dŵr (Lemnaceae) o ran tyfu’n gyflym! Gall y planhigion rhyfeddol hyn ddyblu eu bio-màs mewn ychydig mwy na diwrnod. Fodd bynnag, nid yn unig y bydd y planhigion hyn yn tyfu’n gyflym, y maent hefyd yn faethlon tu hwnt, a gellir eu defnyddio mewn ymborth i anifeiliaid neu’n fwyd i bobl. Drwy feithrin y planhigion hyn dan do, gellir rhoi cyflenwad sefydlog o gynnyrch ffres, boed a fo am y tymhorau.
Mae astudiaeth newydd, a adolygwyd gan gymheiriaid, dan arweiniad ymchwilwyr Brainwaves Dr. Neil Coughlan a’r Athro Marcel Jansen, yn amlinellu chwe bwlch allweddol mewn gwybodaeth sydd ar hyn o bryd yn atal datblygu systemau meithrin llinad y dŵr dan do. A hithau’n dwyn y teitl “Duckweed bioreactors: Challenges and opportunities for large-scale indoor cultivation of Lemnaceae” mae’r astudiaeth yn mynd ymlaen i ddangos fel y gall gwelliannau technolegol mewn ffermio trefol a fertigol gefnogi datblygiad meithrin llinad y dŵr.
Wedi’i chyhoeddi yn y Journal of Cleaner Production, yn dilyn adolygiad eang o’r wybodaeth a’r arferion cyfredol, mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at dechnoleg ailgylchredeg, drwylif a all gyflawni’r gorau posib o ran cyflenwad maethynnau a thwf. Mae’n dangos sut y gall systemau cefnogi sy’n defnyddio synwyryddion, mewn cyfuniad â deallusrwydd artiffisial, hwyluso meithrin, a hyd yn oed cynaeafu, awtonomaidd. Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos y bydd ymchwil bellach i fioleg sylfaenol llinad y dŵr yn cefnogi cynhyrchu bio-màs sy’n uchel mewn protein (e.e., dethol yr hilion gorau, optimeiddio golau, a thrin meicrofïom llinad y dŵr).
Peth sy’n bwysig, mae’r astudiaeth yn casglu bod cyfleoedd realistig erbyn hyn, er gwaethaf heriadau, i ddatblygu a gweithredu meithrin llinad y dŵr mewn ffordd sy’n uchel ei chapasiti, yn awtonomaidd a than reolaeth o dan amodau dan do, at ystod eang o ddibenion.
Felly, daliwch ati i wylio a gweld sut y bydd prosiect Brainwaves yn datblygu gan ddefnyddio’r planhigyn brodorol anhygoel hwn!