Newyddion

Newsletter for the Community of Duckweed Research & Applications, Cyfrol 10 (3), rhifyn 38, tudalennau 112 - 153 (2022)

1 Med 2022

Mae’n hyfrydwch gennym rannu rhifyn cyfredol y Newsletter for the Community of Duckweed Research & Applications, dan olygyddiaeth y Pwyllgor Llywio Rhyngwladol ar Ymchwil a Defnydd Llinad y Dŵr (ISCDRA).

Yn y rhifyn hwn fe gewch ddarllen y cwbl am 6ed Gynhadledd ISCDRA a gynhaliwyd gan yr IPK, Gatersleben, yr Almaen o 29ain o Fai hyd 1af o Fehefin, 2022. Hefyd, cadwch yn gyfredol â’r ymdrechion i fasnacheiddio llinad y dŵr yn yr arddangosfeydd byd-eang, mae’r symudiad tuag at gynhyrchion go iawn a chreadigaethau marchnadol ar gyfer llinad y dŵr yn sicr yn magu cyflymder.  

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr Athro Marcel Jansen, Prif Ymchwilydd prosiect Brainwaves newydd gael ei ethol i’r Pwyllgor Llywio Rhyngwladol ar Ymchwil a Defnydd Llinad y Dŵr (ISCDRA). Da iawn chi, Marcel, ac fe edrychwn ymlaen at y 7fed ISCDRA yn 2024 ym Mhrifysgol Kasetsart, Bangkok, Gwlad y Tai. 

Lawrlwythwch Newyddlen yr ISCDRA yn y fan hon:  Newyddlen Fforwm Llinad y Dŵr yr ISCDRA 2022

 

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA