Newyddion

Y Sioe Ffermio Llaeth Genedlaethol ar Slyri!

25 Hyd 2021
Yr Athro Marcel Jansen yn cyflwyno yn Sioe Ffermio Llaeth Genedlaethol rithwir 2021

Y Sioe Ffermio Llaeth Genedlaethol yw prif achlysur amaethyddol dan do Iwerddon; y man lle bydd ffermwyr llaeth a diwydiannau llaeth yn cwrdd. Cynhaliwyd y cyfarfod eleni gyda’r nos ar yr 20fed a’r 21ain o Hydref, 2021, ac fel achlysur rhithwir y cafodd ei drefnu, oherwydd argyfwng parhaus Covid19.

Cwmpasodd yr achlysur ar-lein ystod lawn o bynciau sy’n berthnasol i’r diwydiant llaeth, gan gynnwys popeth o arloesi a pheirianwaith, i fridio gwartheg, gofal porfa, lles anifeiliaid a chyllid. Roedd dau faes trafodaeth hanfodol yn ymwneud â’r perthynas rhwng ffermio llaeth a’r amgylchedd. Yn y trafodaethau bu pwyslais ar y perthynas cymhleth rhwng newid yn yr hinsawdd a ffermio llaeth, a rhwng slyri a’r amgylchedd.

Yn cymryd rhan yn y pwnc trafodaeth olaf hwn roedd yr aelodau panel Dr Richard O’Shea (Ysgol Peirianneg a Phensaernïaeth, UCC) a’r Athro Marcel Jansen (Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol, UCC) ac fe’i arweiniwyd gan y darlledwr a gwleidydd Ivan Yates. Cwrddodd y panel o dan y faner addawol “Ailddiffinio Slyri o Wastraff i Aur”, i drafod safbwyntiau newydd, cyffrous ar reoli slyri a ffrydiau gwastraff fferm cysylltiedig. Mae problem effeithiau amgylcheddol rheolaeth wael o slyri ar ansawdd dŵr yn hysbys iawn fel y mae’r broblem o gostau storio slyri. Eto, pwysleisiodd y drafodaeth nad oes digon o werth yn cael ei osod ar slyri. Nododd yr Athro Jansen fod cadw’r maethynnau mewn slyri i’w defnyddio’n wrtaith yn rhywbeth cynyddol bwysig. Mae’r cyflenwad o wrteithiau eraill i’r diwydiant ffermio o dan bwysau ac adnoddau byd-eang o ffosffadau’r graig cloddiadwy yn edwino, a chostau gwrtaith wrea’n codi’n gyflym oherwydd dibyniaeth ar danwydd ffosil i’w gynhyrchu. Y mae wedi cael ei amcangyfrif bod 2% o’r traul byd-eang ar danwydd ffosil yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu wrea o nitrogen yn yr atmosffer, sefyllfa annymunol o ystyried y lefelau uchel o nitrogen sy’n bresennol mewn ffrydiau gwastraff fferm. Dylai defnydd doeth o slyri fod yn asgwrn cefn fwyfwy i strategaeth gwrtaith fferm. Eto, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu mynd ati’n syml i daenu slyri. Trafododd Dr O’Shea y gwahanol opsiynau i ddefnyddio slyri’n borthiant ar gyfer traul anaerobig, gan gynhyrchu bio-nwy y gellir ei ddefnyddio’n uniongyrchol fel ffynhonnell gwres, neu ei droi’n drydan. Mae technoleg wedi’i hen sefydlu, o ran unedau bach ar ffermydd ac unedau cydweithredol mwy fel ei gilydd, ac fe’i arferir mewn sawl gwlad ar gyfandir Ewrop. Ar hyn o bryd mae traul anaerobig yn dal i fod yn gymharol anghyffredin ar ffermydd llaeth Iwerddon, ac mae angen cyfathrebu â diwydiant, rhwydweithiau ynni a gwneuthurwyr polisi i archwilio costau a buddion yn ogystal â photensial slyri fel ffynhonnell ynni gwyrdd cynaliadwy. Bydd traul anaerobig yn cynhyrchu nid yn unig bio-nwy, ond hefyd elifion llawn maethynnau y gellir eu defnyddio o hyd fel gwrtaith. Tynnodd yr Athro Jansen sylw at sut y gellir hefyd ddefnyddio elifion llawn maethynnau o dreulwyr anaerobig, neu elifion sy’n deillio o systemau hidlo slyri, neu ffrydiau gwastraff wedi’u teneuo megis golchion buarth i dyfu’r planhigyn dŵr llinad y dŵr (Lemna sp). Bydd y planhigion hyn yn tyfu’n gyflym iawn, ac felly’n glanhau dŵr gwastraff, ar yr un pryd â chynhyrchu bio-màs uchel mewn protein y gellir ei ddefnyddio fel porthiant ar y fferm, gan gau’r cylch maethynnau, a chan gynhyrchu gwerth o wastraff. Gall trawsnewidiad biolegol o slyri fod yn ffactor o bwys mewn cadw maethynnau’n fwy effeithlon, ar yr un pryd â chreu cynhyrchion newydd. Felly, ymhell o fod yn stwff budr a drewllyd, mae datblygiadau newydd yn canolbwyntio ar ennill mwy o werth o slyri, fel gwrtaith, ond hefyd fel ffynhonnell ynni a phorthiant. Mae mynd o “wastraff i aur” yn nod uchelgeisiol, ond mae’r newid o “wastraff i adnodd cynyddol werthfawr” o fewn hyd braich.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA