Newyddion

Rydym yn ffarwelio’n annwyl â Lotti Hales

27 Med 2021
Outdoor Duckweed systems at Aberystwyth University

Ymunodd Lotti â thîm Brainwaves ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dechnegydd ar gyfer haf 2021 i gynorthwyo â’r systemau llinad awyr agored. Rydym yn ffarwelio’n annwyl â hi ac yn dymuno pob lwc iddi â gweddill ei hastudiaethau yn y cwrs BSc mewn Bioleg Blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gadawodd Lotti ni â throsolwg byr ysbrydoledig yn sôn am pam yr oedd rhaid iddi wybod mwy am y planhigyn bach disylw llinad y dŵr.

Pam yr oedd rhaid imi wybod mwy am linad y dŵr

Yn fy mhlentyndod roeddwn wastad am fynd i mewn i yrfa gydag anifeiliaid ond wrth imi fynd yn hŷn ac yn fwy ymwybodol o argyfwng yr hinsawdd tyfodd fy niddordeb mewn planhigion hefyd. Atgyfnerthwyd fy mhenderfyniad i astudio bioleg planhigion ar ôl ymuno â’m clwb Ffermwyr Ifainc lleol a thaith i Ffiji yn 2018. Dyna pryd sylweddolais i os oeddwn am wneud gwahaniaeth i liniaru effeithiau argyfwng yr hinsawdd mai gweithio â phlanhigion fyddai’r ffordd i wneud gwahaniaeth.

Mae’r byd yr ydym yn byw ynddo yn wynebu cymaint o heriadau, ond rwyf wir yn credu y gall planhigion roi llawer o’r atebion er mwyn gwell dyfodol. Un o’r heriadau hyn yw methu â darparu digon o fwyd ar gyfer y boblogaeth gynyddol. Dim ond megis dechrau gwerthfawrogi a deall potensial llinad y dŵr (Lemna minor) yr ydym ni ac mae i’r planhigyn hwn sy’n ddinod yr olwg ac yn aml yn cael ei ystyried yn bla mewn pyllau gardd rai nodweddion rhyfeddol. Gall dyfu mewn lleoedd llygredig lle na all planhigion eraill a hyd yn oed glanhau’r amgylchedd y mae ynddo. Mae gan y planhigyn y gallu i ddefnyddio amoniwm a bydd yn tyfu’n doreithiog. Mewn gwirionedd, gall gynghyrchu mwy o fio-màs yr hectar na gwenith a reis. Nid yn unig y bydd yn cynhyrchu llawer o fio-màs glas, ond y mae’r deunydd hwn yn cynnwys lefelau uchel iawn o brotein (hyd at 30%). Rydym yn dibynnu ar ffynonellau o brotein i gynnal da byw (cig a llaeth) ac yn y DU byddwn yn aml yn mewnforio ymborthion anifeiliaid sy’n uchel mewn protein o leoedd pell, rhywbeth nad yw’n gynaliadwy i’r amgylchedd.

O’i gynhyrchu’n lân, gael Lemna gael ei fwyta gan bobl a gallai fod yn ffynhonnell werdd o brotein at y dyfodol. Mae’n bwysig deall hyn gan fod cymaint o bobl yn y byd hwn na allant gael protein yn eu deiet o ddydd i ddydd. Yn y byd Gorllewinol gallem a dylem efallai hefyd ddisodli’r protein y byddwn yn ei fwydo i anifeiliaid â ffynonellau mwy cynaliadwy y gallwn eu cynhyrchu yn y fan a’r lle yn hytrach na gorfod mewnforio. Mae Lemna’n rhoi cyfle i liniaru ar lygredd, ac yntau’n tyfu’n doreithiog ac yn cynhyrchu bio-màs llawn protein. Mae’n amlwg y bydd y planhigyn hwn yn rhan o’r dyfodol inni i gyd ac rwyf wir yn dymuno bod yn rhan o’r weledigaeth honno.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA