Newyddion
Gŵyl Ymchwil Aberystwyth 2021
Bu Dr Dylan Gwynn Jones o Brainwaves yn aelod o banel arbenigol ar ‘Wyddoniaeth Newid yn yr Hinsawdd’ a gynhaliwyd yn ystod Symposiwm undydd HinsawddAber “Colled, Difrod, Adnewyddiad” ar y 18fed o Hydref. Roedd y symposiwm yn rhan o ŵyl arbennig wythnos o hyd yn arddangos ehangder ymchwil Prifysgol Aberystwyth, a ganolbwyntiai ar gwestiynau allweddol ac atebion potensial i’r argyfwng hinsoddol ac ecolegol byd-eang http://aber.ac.uk/researchfest