Newyddion
Y frwydr i fod yn ‘Blanhigyn Llinad y Dŵr Penigamp’
Bu plant o ledled gorllewin Cymru’n cystadlu i fod yn ‘Blanhigyn Llinad y Dŵr Penigamp’ ar arddangosfa BRAINWAVES yn Ffair Wyddoniaeth Prifysgol Aberystwyth. A Laurie’n eu hannog ymlaen, wynebodd y tîm giwiau o blant a oedd am ymgymryd â’r her o dynnu maethynnau allan o byllau o slyri wedi’i deneuo.
Dewiswch eich teclyn – rhwydi, gefeiliau neu bethau bachu bagiau te – p’un sy’n eich gwneud fwyaf effeithlon fel planhigyn llinad y dŵr! Arhoswch am y seiniwr a rasiwch i dynnu cymaint ag y gellwch o beli Nitrogen a Ffosffad o’r pwll a chael hyd i unrhyw fetalau trymion sydd ynghudd yn y gro ar waelod y pwll. Os tynnwch hwyaden allan neu unrhyw un o gyfansoddion gwerthfawr llinad y dŵr (protein, startsh a lipidau) fe gollwch bwyntiau!
Y diwedd: Tîm blinedig ond hapus
Digwyddiad blynyddol i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain yw’r Ffair Wyddoniaeth a gynhaliwyd rhwng y 14eg a’r 16eg o Fawrth ar Gampws Penglais. A hwythau’n targedu plant ysgol 9-11 oed, bydd yr arddangosfeydd rhyngweithiol yn ennyn diddordeb disgyblion ag amrywiaeth o weithgareddau a chwisiau gwyddonol bywiog. Daeth bron i 1500 o ddisgyblion o 35 o ysgolion i’r digwyddiad eleni.
Da iawn Laurie am ddyfeisio syniad mor ardderchog a threfnu’r holl ffeithiau difyr a diolch yn fawr i’r holl fyfyrwyr gwych a helpodd i redeg yr arddangosfa a chadw rheolaeth ragorol ar y dorf!