Newyddion
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023
8 Maw 2023
(2).png)
Buom yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda thîm gwych o fenywod sydd â llawer o bethau’n gyffredin ond un peth pendant – cariad at y planhigyn bach llinad y dŵr!!
Thema’r diwrnod eleni oedd #CofleidioTegwch. Thema’r ymgyrch yw codi sgwrs ledled y byd am Pam nad yw cyfle cyfartal yn ddigon.
Buom yn siarad am y thema hon a dod ar draws dyfyniad priodol iawn gan yr awdur Americanaidd, Jody Picoult, yr oeddem am ei rannu:
'Cydraddoldeb yw trin pawb yr un fath. Ond ystyr tegwch yw cymryd gwahaniaethau i ystyriaeth fel y bo cyfle i bawb lwyddo '