Newyddion

St David's Day 2023

1 Maw 2023
Brainwaves & Ports Past and Present Teams Celebrating St David's Day 2023

Nid oes dim byd Cymreiciach na Dydd Gŵyl Dewi, yr ŵyl a’r dathliad ar y 1af o Fawrth sy’n coffáu nawddsant Cymru, sef Dewi Sant. 

Mewn cydweithrediad â Thîm Porthladdoedd Ddoe a Heddiw buom yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2023 yn odidog, gyda phice ar y maen cartref, hyd yn oed!!!!

Yr oedd Dewi Sant, athro enwog a sylfaenydd yr hyn sydd heddiw’n Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn enwog am ei agwedd sobr, dduwiol a’i allu i gyflawni gwyrthiau.

Priodolir gwyrthiau lawer i Ddewi Sant, gan gynnwys atgyfodiad plentyn marw ac adfer golwg dyn dall. Un o’r gwyrthiau enwocaf a gysylltir ag ef yw bod bryn wedi tyfu o dano wrth iddo bregethu i dorf fawr, a hynny’n gadael iddynt ei weld a’i glywed yn gliriach.

Yn ôl y sôn, y geiriau olaf a lefarodd wrth ei ddilynwyr cyn iddo farw oedd: "Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i." Mae’r ymadrodd ‘gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ yn un adnabyddus o hyd yng Nghymru.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA