Newyddion

St Patrick's Day 2023

17 Maw 2023
Brainwaves Team in Aberystwyth University celebrating St Patrick's Day 2023

Daeth y Tîm yng Nghymru at ei gilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddathlu Dydd Gŵyl Padrig 2023. 

Yn ôl y chwedl, ganwyd Padrig i deulu Brythonaidd-Rufeinig cyfoethog tua’r flwyddyn 386 AD. Ni wyddys ym mha le yn union – yn ôl rhai yn yr Alban, yn ôl eraill yng Nghymru.

Aed ag ef i Iwerddon ar ôl ei herwgipio’n 16 oed gan ysbeilwyr o Iwerddon. Ac yntau wedi’i wneud yn gaethwas, bu Padrig yn bugeilio defaid ar Sliabh Mis (neu Fynydd Slemish), yn Swydd Antrim, am nifer o flynyddoedd cyn dianc i Brydain.

Derbyniodd hyfforddiant wedyn i fod yn offeiriad yn Ffrainc – daeth i gael ei adnabod fel Pádraig yn Iwerddon ac weithiau cyfeirid ato hefyd wrth ei enw teuluol, Mac Calprainn (sef Mab Calpurnius).

Tua 431, dychwelodd Pádraig i Iwerddon yn genhadwr; fe âi ymlaen i chwarae rhan sylweddol mewn troi Iwerddon at y Gristnogaeth.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA