Newyddion
Llinad y Dŵr: O Slyri i Brotein Gwyrdd
Cynhaliodd BRAINWAVES weithdy i’n rhanddeiliaid yn hwyr ym mis Mawrth yn lleoliad hardd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ar y podiwm yng nghwmni’r aelodau o dîm BRAINWAVES, Marcel Jansen a Gruff Jones, yr oedd Aled Jones (Llywydd, NFU Cymru) a roddodd eglurhad personol o’i system rheoli slyri a’r heriadau y mae ffermwyr yn eu hwynebu.
Ar ôl bore o sgyrsiau diddorol, parhaodd y trafodaethau wrth inni ymweld â’r Gerddi Botaneg lle mae ein harbrofion awyr agored yn rhedeg. Nid oedd gyda’r cynhesaf o ddyddiau gwanwyn, a hithau braidd yn oerllyd yn y twnnel polythen a dim ond megis dechrau tyfu yr oedd ein llinad y dŵr yn yr awyr agored (dim tywydd poeth ym mis Mawrth eleni!).
Rheseli o linad y dŵr yn tyfu yn y tŷ gwydr, y ddwy hyn â’r gwres ychwanegol a geir gan babell dyfu i’w cadw’n glyd a’r llinad y dŵr yn tyfu’n dda.
Ar ôl ymweld ag arbrofion BRAINWAVES aethom am dro cyflym o gwmpas y prif dŷ gwydr anhygoel yn yr Ardd Fotaneg a pharhau â’n trafodaethau yn y gwres (Gerddi Botaneg : Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth).
Diolch i’n rhanddeiliaid am gymryd rhan yn BRAINWAVES ac am wneud y gweithdy’n ddigwyddiad mor ddiddorol a llawn gwybodaeth.