Newyddion
Technology to Drive Food Systems

Rhoddodd Dylan Gwynn-Jones gyflwyniad yn Tech Cymru 2021. Siaradodd am yr heriadau a’r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu cnydau dan do yng Nghymru. Cyflwynodd brosiect Brainwaves yn enghraifft lle gall dulliau economi gylchog wneud systemau’n hyfyw. Tynnodd sylw at y ffaith bod ffermwyr a thyfwyr Cymru’n amryfal eu sgiliau ac yn amryfal eu harfau. Maent yn gwybod sut i gynhyrchu bwyd ac maent yn rhan o gadwyni cyflenwi sydd eisoes yn bod. Mae cyfleoedd sylweddol nawr iddynt amrywiaethu ac adeiladu ar yr hyn y maent eisoes yn ei wneud.
https://www.youtube.com/watch?v=mPvjKzxqgTM&list=PLmBhhsvTQ3t1MNI2rXjUGVoSBMX-n96Cn&index=3