Newyddion
Croeso i Lotti Hales!

Croeso i Lotti Hales, myfyriwr Bioleg Blanhigion 3edd flwyddyn, gwnaeth Lotti waith ar dwf llinad y dŵr yn ystod ei blwyddyn mewn diwydiant ac mae’n ymuno â thîm PA yn dechnegydd ar gyfer yr haf.
Magwyd Lotti yng Ngorllewin Sussex a dechreuodd ei BSc mewn Bioleg Blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2018. Tyfodd ei diddordeb mewn planhigion pan ymunodd â’i chlwb Ffermwyr Ifainc lleol yn 2016 ac o’r fan honno teimlodd yn gynyddol mai ei chenhadaeth hi oedd tynnu sylw at bwysigrwydd planhigion i liniaru ar effeithiau newid hinsawdd byd-eang. Ar ôl cwblhau ei blwyddyn mewn diwydiant ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynorthwyo ar brosiect Brainwaves mae hi nawr yn ymuno ar gyfer yr haf yn dechnegydd. Mae’n gobeithio mynd ymlaen at radd meistr ymchwil mewn Amaethyddiaeth Amgylcheddau Dan Reolaeth ar ôl gorffen ei BSc yn 2022.