Newyddion
Twnnel Polythen – Yn Barod i Dyfu!
7 Gorff 2021

Fel rhan o’n gwaith ar Brainwaves byddwn yn defnyddio twnelau polythen i ddatblygu system fforddiadwy i feithrin llinad y dŵr. Drwy ddefnyddio twnelau polythen fe estynnir y tymor tyfu, gan optimeiddio cynhyrchiant bio-màs a mwyafu’r capasiti i adfer dŵr. Wedi’i ailorchuddio’n ddiweddar, mae ein twnnel polythen ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach yn barod i’n system brototeip gyntaf gael ei gosod a’i phrofi.