Newyddion

Prosiect gan UCC yn anelu at gynorthwyo diwydiant amaethyddol Iwerddon drwy droi slyri’n ymborth i anifeiliaid

20 Ebr 2020
Brainwaves Logo

Dan arweinyddiaeth yr Athro Marcel Jansen o Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC a’r Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol, mae prosiect ‘Brainwaves’ newydd dderbyn € 1.4 miliwn o gyllid o dan raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon a Chymru 2014-2020. 

Meddai’r Athro Jansen ac yntau’n siarad yn lansiad y prosiect, “Ni ellir cymryd yn ganiataol ddim rhagor y bydd meintiau helaeth o wrteithiau cemegol, rhad ar gael, ac mae angen technegau newydd i ailddefnyddio maetholion planhigol a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol amaethyddiaeth fodern drwyddi draw. Yn Ewrop at ei gilydd mae gennym linad y dŵr fel ffynhonnell anghofiedig o brotein o ansawdd uchel, â photensial rhagorol fel ychwanegyn mewn ymborth.”

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA