Newyddion
Mae gan linad y dŵr allu naturiol i ffynnu mewn dŵr llygredig a’i buro ac y mae ymhlith y planhigion sy’n tyfu gyflymaf.
20 Ebr 2020

Bydd prosiect ‘Brainwaves’, sy’n cael ei arwain gan Goleg Prifysgol Cork, yn defnyddio llinad y dŵr i drin dŵr gwastraff, yn aml slyri, o ffermydd cig eidion a llaeth fel ei gilydd.
Mae gan linad y dŵr allu naturiol i ffynnu mewn dŵr llygredig a’i buro ac y mae ymhlith y planhigion sy’n tyfu gyflymaf.
Y mae hefyd yn fwytadwy, ac fe’i ystyrir yn ffynhonnell ymborth llawn protein i anifeiliaid, rhywbeth sy’n ei wneud yn ymborth addawol i gymryd lle ffa soia drud.