Newyddion
Proffeil Ymchwilydd: Mr Cian Redmond

Bu Mr Cian Redmond, brodor o Swydd Wicklow, mor ddewr â chytuno i ymgymryd â’n cyfweliad byr ar gyfer ein darn Proffeil Ymchwilydd ni. Graddiodd Cian yn ddiweddar â B.Sc. mewn Bioleg Blanhigion Gymwysedig o Goleg Prifysgol Cork (UCC) lle dechreuodd ei ddiddordeb mewn astudio Llinad y Dŵr.
Rydym yn falch dros ben o glywed y bydd Cian yn parhau â’i frwdfrydedd ynghylch y planhigyn bach disylw Llinad y Dŵr, ac yntau wedi dechrau PhD a ariennir gan yr Adran Amaeth, Bwyd a Môr o dan brosiect Duck-Feed yn Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol yn UCC.
Llongyfarchiadau Cian ac rydym yn dymuno’r gorau ichi yn eich astudiaethau yn y dyfodol.
Beth yw eich enw chi a beth yr ydych yn ei astudio?
Cian Redmond yw f’enw i ac rwyf newdd gwblhau B.Sc. mewn Bioleg Blanhigion Gymwysedig yn UCC.
Beth sy’n dod â chi at brosiect Brainwaves?
Cwrddais i â phrosiect Brainwaves am y tro cyntaf yn ystod prosiect blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig. Roedd fy mhrosiect yn anelu at ymchwilio i effeithiau cryfder golau a ffotogyfnod ar y twf a gallu llinad y dŵr i dynnu maethynnau allan o’r dŵr. Gweithiais i ochr yn ochr â phrosiect Brainwaves a defnyddio’r bioadweithyddion wedi’u stacio dan do i dyfu llinad y dŵr ar gyfer fy mhrosiect.
Ar ôl blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig dychwelais at brosiect Brainwaves yn gynorthwy-ydd ymchwil am yr haf. Roedd y gwaith hwn yn golygu tyfu llinad y dŵr yn yr awyr agored ar ffrwd o wastraff fferm. Roedd llinad y dŵr yn cael ei dyfu mewn bioadweithyddion mawr yn yr awyr agored.
Pa fath o brofiad a gawsoch chi ar brosiect Brainwaves?
Fe ges i lwyth enfawr o brofiad wrth weithio ar brosiect Brainwaves. Caniataodd y gwaith imi ymarfer ac adeiladu ar yr holl sgiliau a ddysgais i o’m cwrs israddedig. Rhoddodd y prosiect fewnwelediad gwych imi i fyd ymchwil. Enillais i brofiad o weithio fel rhan o dîm mawr lle mae cyfathrebu’n bwysig tu hwnt.
Fe ges i brofiad ymchwil drwy arwain wrth redeg arbrofion ac adrodd yn ôl ar fy nghanlyniadau. Mae datrys problemau’n rhan fawr o weithio mewn ymchwil ac fe fwynheuais i weithio gyda’r tîm i oresgyn problemau drwy gydol fy mhrofiad.
Enillais i brofiad hefyd o weithio gyda rhanddeiliaid i’r prosiect megis y ffermwyr a gyflenwodd y ffrydiau gwastraff fferm i’r prosiect, caniatodd hyn imi gael gwell dealltwriaeth o’r ffrydiau gwastraff a sut y cânt eu storio a’u defnyddio ar y fferm.
A gawsoch chi hwyl wrth ennill y profiad hwn i gyd?
Do, rwyf wir wedi cael hwyl arni. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel rhan o dîm mawr, peth gwych yw gwybod y bydd y gwaith a wnes i yn bwydo i mewn i agweddau eraill ar y prosiect. Roedd yn braf iawn cydweithio â’r tîm yng Nghymru a chwrdd ag eraill sy’n gweithio ar yr un nodau o brifysgolion gwahanol.
Ble nesaf?
Mwynheuais i weithio â llinad y dŵr gymaint nes fy mod i newydd gychwyn PhD ar brosiect arall â nodau tebyg i brosiect Brainwaves. Rwyf yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio â llinad y dŵr a byddaf yn cadw cyswllt agos â phrosiect Brainwaves wrth imi ymgymryd â’m PhD a pharhau ag ymchwil â llinad y dŵr.