Newyddion

Dewch i gwrdd â’n myfyriwr ar leoliad ym Mhrifysgol Aberystwyth: Ms. Laurie Stevenson

21 Tach 2022
Laurie wrthi’n brysur yn y labordy yn mwynhau ochr ymarferol y lleoliad.

Rydym yn falch tu hwnt o groesawu Ms Laurie Stevenson i dîm Brainwaves. Fe gawsom gyfle i siarad â hi’n ddiweddar ac fy ddywedodd bopeth wrthym am ei hastudiaethau a sut y daeth hi i gymryd rhan yn y prosiect.

Rwyf yn gwneud gradd mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt ym Mhrifysgol Aberystwyth a digwyddodd y lleoliad hwn drwy hap a damwain, braidd. Es i i goleg amaethyddol a darganfod cariad at ecoleg ac wedyn yn ystod fy ngradd fe gymerais i ddiddordeb arbennig mewn amaethyddiaeth gynaliadwy a dyfeisiadau newydd mewn cynhyrchu bwyd ar gyfer poblogaeth gynyddol megis ffermio fertigol a systemau tyfu hydroponig. Roeddwn yn cynllunio beth roeddwn i’n mynd i’w wneud ar gyfer fy nhraethawd estynedig ac fe anfonais i ebost at Dylan Gwynn-Jones am y gwaith yr oedd ef yn ei wneud, ac fe gynigiodd ef y cyfle imi newid fy ngradd yn un pedair blynedd ac ymgymryd â lleoliad blwyddyn ar brosiect BRAINWAVES. Hyd yn hyn, rwyf wedi gweithio ar y lleoliad o bell am ychydig dros ddau fis gan wneud gwaith desg megis cyfansoddi adolygiad o’r papurau diweddaraf ar y gwahanol ffocysau o fewn ymchwil ar linad y dŵr ac wedyn golwg penodol ar yr ymchwil ar linad y dŵr ac effaith gwahanol drefnau goleuo ar dwf ac amsugno maethynnau. Rwyf erbyn hyn wedi symud at waith wedi fy lleoli’n ffisegol yn y labordai ers mis ac rwyf wir yn mwynhau ochr ymarferol y lleoliad.

Rwyf yn edrych ymlaen at weddill fy lleoliad ac efallai’r cyfle i ymweld â Choleg Prifysgol Cork i weld yr ymchil yno. Rwyf yn dechrau meddwl am y prosiect a wnaf fel rhan o’m lleoliad ac rwyf ar hyn o bryd yn ystyried rhywbeth yn ymwneud â mesur a dylanwadu ar gynnwys protein llinad y dŵr gyda golwg ar y defnydd ohono mewn ymborth i anifeiliaid. Yn ogystal â chael cyfrannu at ymchwil wyddonol weithredol a’r ffaith bod hynny’n ychwanegiad gwych at fy CV, rwyf yn gobeithio dysgu i ba gyfeiriad rwyf am fynd ar ôl graddio ac ennill dealltwriaeth o sut beth yw gyrfa mewn ymchwil.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA