Newyddion
Brainwaves yn ymddangos ar @10Things_ToKnow ar RTE 1

Roeddem wrth ein bodd o groesawu’r darlledwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth a cholofnydd gwobrwyol Kathriona Devereux a’i chriw ffilmio o RTE i’n cyfleusterau ymchwil yn Ysgol BEES, UCC yn ddiweddar.
Daeth Kathriona a’i thîm yma i ffilmio deunydd ar gyfer y gyfres ddiweddaraf o’r rhaglen deledu ddiddorol dros ben am wyddoniaeth 10 Things to Know About, a ddarlledir ar RTÉ 1 ar nos Lun. Wrth archwilio’r datblygiadau anhygoel diweddaraf mewn ymchwil wyddonol yn Iwerddon, siaradodd Kathriona â’r Athro Marcel Jansen am ddatblygiad systemau adfer dŵr gwastraff gan ddefnyddio’r planhigyn brodorol llinad y dŵr, defnyddiau i fio-màs llinad y dŵr, a sut mae’r ymchwil hon yn cyfrannu at y symudiad ehangach tuag at ddatblygu prosesau economi gylchol yn Iwerddon.
Bwriwch olwg ar y recordiad yn y fan hon 4.25 munud i mewn i’r episod.