Newyddion

Ymchwil a Defnyddiau Llinad y Dŵr er mwyn y Fio-economi Gylchol yn Iwerddon

9 Meh 2023
Ffoto Grŵp o’r Gweithdy Llinad y Dŵr

Yn Iwerddon, bu cynnydd cyson dros y blynyddoedd yn y diddordeb yn ymchwil a defnyddiau llinad y dŵr. Eto, gwasgarog braidd yw’r ymdrechion ymchwil a datblygu, â diffyg meddwl cydgysylltiedig ar adegau. I ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd, yn ogystal â chyrchu’r arbenigedd rhyngwladol gorau, trefnwyd gweithdy undydd ar “Ymchwil a Defnyddiau Llinad y Dŵr er mwyn y Fio-economi Gylchol yn Iwerddon” yng Ngholeg Prifysgol Cork (UCC) yn ne Iwerddon ar y 9fed o Fehefin 2023.

Yn Iwerddon, ffocws cryf ar y trawsnewidiad i fio-economi fwy cylchol, economi lle defnyddir gwastraff yn adnodd, sydd yn bennaf yn gyrru’r diddordeb yn ymchwil a defnyddiau llinad y dŵr. O ganlyniad, yr oedd pwyslais cryf yn y gweithdy ar ddefnyddio llinad y dŵr (Lemnaceae spp.) yn offeryn i adfer dŵr gwastraff ac ennill gwerth ohono, yn enwedig ar ffurf protein, yn achos yr olaf o’r ddau.  Fel y manylodd yr Athro Marcel Jansen (UCC) yn ei anerchiad agoriadol, mae esblygu ymchwil labordy ar linad y dŵr at ddefnyddiau masnachol gwirioneddol yn gofyn ymwneud agos a chilyddol rhwng gwahanol weithredwyr, megis entrepreneuriaid, gwneuthurwyr polisi, ac ymchwilwyr. Yn ei groeso, canolbwyntiodd yr Athro Brian Ó Gallachóir, is-lywydd cyswllt dros gynaliadwyedd yn UCC, yn benodol ar mor bwysig yw hi bod ymchwil yn cael effaith ar bolisi. Cafwyd rhagor o bwyslais ar y cyswllt agos â pholisi gan Patrick Barrett o’r Adran Amaeth, Bwyd a’r Môr, a dynnodd sylw at ddatblygu bio-economi Iwerddon, a’r gefnogaeth gref iddi, â ffocws ar feddwl systemig ac arloesi, datblygu sgiliau, ffynonellau newydd o fio-màs, dulliau newydd o drin adnoddau biolegol a dim gwastraff. Yn ei araith ef, nodwyd ymchwil a defnyddiau llinad y dŵr yn glir fel maes addawol sydd yn gyson iawn â’r agenda genedlaethol o ran y fio-economi. O ystyried y cyswllt agos sydd rhwng polisïau Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â’r fio-economi, mae hyn yn argoeli’n dda o ran ymchwil a defnyddiau llinad y dŵr ledled Ewrop.

Cryfder arbennig sy’n perthyn i’r ymchwil ar linad y dŵr yw’r sylfaen gwybodaeth cryf sydd wedi cael ei gasglu yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Dadansoddodd yr Athro Klaus Appenroth (Jena), yn ei araith mewn sesiwn lawn, yr heriadau a wynebir wrth dyfu llinad y dŵr yn yr awyr agored ar gyfryngau is-optimaidd, yn yr awyr agored y tu allan i’r tymor tyfu naturiol, a than do mewn hinsawdd artiffisial. Tynnodd yr Athro Appenroth sylw at sawl bwlch allweddol yn yr wybodaeth, ymhlith eraill ein gwybodaeth gymharol gyfyngedig o blâu a chlefydau llinad y dŵr. Mewn ail sesiwn lawn, gosododd yr Athro Laura Morello (Milan) bwyslais ar fioamrywiaeth llinad y dŵr, gan fynd â’r gynulleidfa o Carl Linnaeus i Elias Landolt. Adroddodd yr Athro Morello ar yr ymwybyddiaeth sy’n dechrau ymddangos o “fathau cymysgryw o linad y dŵr” ac amryw o groesiadau i’w cael yn yr amgylchedd naturiol. Mae hyn ar y naill law’n cymhlethu adnabod hilion, ond ar y llaw arall o bosib yn esgor ar gyfleoedd newydd ar gyfer defnyddiau fel y dangosir gan y cynnwys protein uchel sydd mewn rhai hilion polyploidol. Archwiliodd Dr Viktor Oláh (Debrecen) ymhellach y cysyniad o fioamrywiaeth, gan adrodd bod rhai meithriniadau cymysg o ddwy rywogaeth, ond nid pob un, yn dangos twf cynt o dipyn o’u cymharu ag unllystyfiannau cyfatebol.

Adroddodd Dr Vlastimil Stejskal (České Budějovice) ar y defnydd o linad y dŵr mewn fferm bysgod Dyframaeth Amldroffig Integredig yn Iwerddon. Adroddodd Dr Stejskal fod un hectar o linad y dŵr yn gallu adfer dŵr wedi’i faeddu gan 30 tunnell o frithyll seithliw a draenog. Adroddodd Dr Niall O’Leary (UCC) ar ffordd raeadrol o fynd ati i adfer ac ennill gwerth o wastraff prosesu o’r llaethdy. Defnyddiwyd adweithyddion microbaidd i drawsnewid cynnwys organig y dŵr gwastraff yn bolyhydrocsialcanoadau, a llinad y dŵr yn gallu cael ei ddefnyddio wedyn i ennill gwerth o elifion sy’n llawn nitrogen a ffosfforws. Adroddodd Dr Neil Coughlan (UCC) fel y gellir defnyddio unedau magu llinad y dŵr wedi’u stacio (amlhaenog) i adfer elifion o’r fath, er bod optimeiddio’r adferiad yn gofyn ystyried yn ofalus baramedrau gweithredu megis cyfradd llif. Adroddodd Dr Gruffydd Lloyd-Jones (Aberystwyth) ar ennill gwerth o ddŵr gwastraff ffermydd, gan bwysleisio gwenwynder potensial amonia, a phwysigrwydd rheoli’r pH (h.y. ei ostwng) i alluogi twf llinad y dŵr. Cyflwynodd Dr Lloyd-Jones y cyfyng-gyngor anodd o orfod teneuo dŵr gwastraff er mwyn tyfu llinad y dŵr, a ffermwyr eisoes yn ymgodymu â meintiau mawr o wastraff. Cafwyd trafodaeth fywiog wedyn lle tynnwyd sylw at y posibilrwydd o ychwanegu dŵr gwastraff fferm yn ei lawn nerth i mewn i byllau rhaeadrol fel ateb posib. Adroddodd Dr Reindert Devlamynck (Fflandrys) ar weithrediad system raeadrol ar gyfer llinad y dŵr yn Fflandrys, Gwlad Belg. Adroddodd Dr Devlamynck ar y mater o warediad anghyfartal ffosfforws a nitrogen, a all lesteirio gollwng dŵr gwastraff “wedi’i lanhau” i ddyfroedd wyneb lleol. Adroddodd Dr Devlamynck hefyd ar y broblem o groniad graddol potasiwm, a’r cynnydd mewn osmolaredd sy’n dod o ganlyniad yn llesteirio twf llinad y dŵr. Adroddodd Meritxell Abril Cuevas (Barcelona) ar brofion newydd yn ymwneud â meithrin llinad y dŵr, yn ogystal â haloffytau (Salicornia sp.), i reoli problemau halltedd wrth ddefnyddio dŵr gwastraff moch.

Adroddodd Abril Cuevas hefyd ar gynlluniau i ddefnyddio bio-màs llinad y dŵr yn wrtaith ar gnydau. Ar ôl dadl fywiog, cytunwyd bod hyn yn syniad diddorol iawn gan fod llinad y dŵr yn debygol o weithio fel gwrtaith sy’n gollwng yn gymharol araf, ar yr un pryd ag ychwanegu sylwedd organig at y pridd. Adroddodd yr Athro Brijesh Tiwari (Dulyn) ar ffordd wahanol o fynd ati i ddefnyddio bio-màs llinad y dŵr: sef tynnu protein allan gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau glân. Roedd pwyslais ar lai o effeithiau negyddol o’r broses echdynnu protein, er enghraifft drwy ddefnyddio toddyddion gwahanol a phrosesau effeithlon o ran ynni. Nod grŵp yr Athro Tiwari yn y pen draw yw datblygu proses puro biolegol arloesol lle defnyddir y bio-màs yn gyfan gwbl o ganlyniad i echdynnu cynhwysion gwerthfawr llinad y dŵr, y naill ar ôl y llall. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â’r ymagweddiad a gymerwyd gan Priya Pollard a adroddodd ar sut y gellir defnyddio prosesau silweirio traddodiadol i gadw llinad y dŵr, fel ymborth i anifeiliaid, er enghraifft.

Roedd sawl cynrychiolydd o’r sector fusnes yn cymryd rhan yn y gweithdy, ac yn cyfrannu’n sylweddol at drafodaethau. Rhoes Dr Paul Fourounjian (San Diego) drosolwg byr ar ddiwydiant llinad y dŵr yr Unol Daleithiau, gan adrodd ar statws GRAS (Wedi’i Gydnabod yn Gyffredinol fel Saff) llinad y dŵr, yn ogystal â chymeradwyaeth gan yr FDA (Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau) i ddefnyddio protein llinad y dŵr mewn ystod o gynhyrchion bwyd. Adroddodd Dr Fourounjian ar ddatblygiad cyffrous y cwmni Plantible Foods, a thrafodaeth ddiddorol yn codi wedyn ynghylch cydweddoldeb/anghydweddoldeb defnyddiau’n ymwneud ag adfer dŵr gwastraff a defnyddiau’n ymwneud â bwyd.

Bu’r gweithdy’n llwyddiant sylweddol, â barnu wrth ansawdd y cyflwyniadau, ac yn enwedig y trafodaethau a’r rhwydweithio rhwng cynrychiolwyr. Â dweud y gwir, pan gafwyd y syniad o weithdy yn y lle cyntaf, y disgwyl oedd mai rhyw 20 o gynrychiolwyr a gofrestrai i ddod. Mewn gwirionedd, fe gofrestrodd bron i 50 o gynrychiolwyr, a chofrestru’n gorfod cael ei stopio y pryd hynny oherwydd problemau o ran lle digonol. Roedd cymysgedd da o gynrychiolwyr lleol a rhyngwladol, entrepreneuriaid, rhanddeiliaid ac academyddion ymhlith a rhai a oedd yn bresennol, yn ogystal ag ymchwilwyr sylfaenol a chymwysedig. Mae’n amlwg bod ymchwil a defnyddiau llinad y dŵr yn cael eu gweld yn eang fel rhywbeth perthnasol i ddatblygu (bio-)economi gylchol. Y disgwyl yw bod y gweithdy ar Ymchwil a Defnyddiau Llinad y Dŵr wedi rhoi hwb pellach i’r maes drwy dynnu sylw at gyfleoedd, nodi bylchau yn yr wybodaeth i’w hymchwilio ymhellach, ac yn bennaf oll drwy hwyluso creu rhwydweithiau cydweithredol rhwng y rhai a fu’n cymryd rhan.

Cafodd y gweithdy ei gefnogi gan brosiect Duck-Feed (DAFM 2021R487), Cefnogaeth i Ddigwyddiadau gan Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd (2023-ES-1181) a phrosiect Brainwaves (a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru).

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA