Newyddion

Diwrnod prysur yn Sioe Frenhinol Cymru

2 Awst 2023
Dr Dylan Gwynn-Jones yn cael ei gyfweld gan BBC Radio 4 ar gyfer ‘Farming Today’

Dechrau cynnar i dîm Brainwaves Aberystwyth ddydd Mawrth 25ain o Orffennaf wrth inni gychwyn am Sioe Frenhinol Cymru.

Dechreuodd diwrnod Dylan â chyfweliad â BBC Radio 4 ar gyfer ‘Farming Today’, ac yntau’n siarad am dyfu llinad y dŵr fel ffynhonnell protein ar gyfer ymborth anifeiliaid, a ddarlledwyd bore trannoeth yn rhan o gyfres o gyfweliadau o wahanol rannau o’r sioe.

Ymlaen â ni wedyn i brif ddigwyddiad y dydd inni a chawsom gwmni rhanddeiliaid sydd wedi gweithio gyda ni ar Brainwaves a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coleg Sir Gâr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Thema’r cyfarfod oedd ‘Datblygu Economi Gylchol mewn Ffermio yng Nghymru’. Ar ôl cyflwyniad gan Dr Gruffydd Jones am ein ‘Taith gyda Brainwaves’ cafwyd trafodaeth fywiog am y rhwystrau i greu economi gylchol.

Llawer o ddiolch i Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth am ymuno â thîm Brainwaves i rannu ei arbenigedd ar reolaeth ac entrepreneuriaeth yn y sector amaeth yng Nghymru.

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA